Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1033

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

4:20 Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom.

4:21 Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a’u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i’w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.

4:22 Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr ar¬wydd hwn o iechydwriaeth.

4:23 A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai’r archoffeiriaid a’r henuriaid wrth¬ynt.

4:24 Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddy¬wedasant, O Arglwydd, tydi yw’r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a’r ddaear, a’r môr, ac oll sydd ynddynt;

4:25 Yr hwn trwy’r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer?

4:26 Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a’r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.

4:27 Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dŷ Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda’r Cenhedloedd, a phobl Israel,

4:28 I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a’th gyngor di eu gwneuthur.

4:29 Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i’th weision draethu dy air di gyda phob hyfder;

4:30 Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu.

4:31 Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o’r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.

4:32 A lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid; ac ni ddywedodd neb ohonynt fod dim a’r a feddai yn eiddo ei hunan, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin.

4:33 A’r apostolion trwy nerth mawr a roddasant dystiolaeth o atgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a gras mawr oedd arnynt hwy oll.

4:34 Canys nid oedd un anghenus yn eu plith hwy: oblegid cynifer ag oedd berchen tiroedd neu dai, a’u gwerthasant, ac a ddygasant werth y pethau a werthasid,

4:35 Ac a’u gosodasant wrth draed yr apostolion: a rhannwyd i bob un megis yr oedd yr angen arno.

4:36 A Joseff, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (yr hyn o’i gyfieithu yw, Mab diddanwch,) yn Lefiad, ac yn Gypriad o genedl,

4:37 A thir ganddo, a’i gwerthodd, ac a ddug yr arian, ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion.


PENNOD 5

5:1 Eithr rhyw ŵr a’i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig, a werthodd dir,

5:2 Ac a ddarnguddiodd beth o’r gwerth, a’i wraig hefyd o’r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion.

5:3 Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir?

5:4 Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.

5:5 Ac Ananeias, pan glybu’r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu’r pethau hyn.

5:6 A’r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a’i cymerasant ef, ac a’i dygasant allan, ac a’i claddasant.

5:7 A bu megis ysbaid tair awr, a’i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn.