9:10 Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus, a’i enw Ananeias: a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananeias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd.
9:11 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Union, a chais yn nhŷ Jwdas un a’i enw Saul, o Darsus: canys, wele, y mae yn gweddïo;
9:12 Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananeias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith.
9:13 Yna yr atebodd Ananeias, O Ar¬glwydd, mi a glywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint di yn Jerwsalem.
9:14 Ac yma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr archoffeiriaid, i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di.
9:15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, dos ymaith: canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel.
9:16 Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef er mwyn fy enw i.
9:17 Ac Ananeias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd i; (Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost,) fel y gwelych drachefn, ac y’th lanwer â’r Ysbryd Glân.
9:18 Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen: ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd.
9:19 Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau.
9:20 Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mab Duw.
9:21 A phawb a’r a’i clybu ef, a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth yma er mwyn hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid?
9:22 Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gan gadarnhau mai hwn yw y Crist.
9:23 Ac wedi cyflawni llawer o ddydd¬iau, cydymgynghorodd yr Iddewon i’w ladd ef.
9:24 Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul: a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos, i’w ladd ef.
9:25 Yna y disgyblion a’i cymerasant ef o hyd nos, ac a’i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged.
9:26 A Saul, wedi ei ddyfod i Jerwsalem, a geisiodd ymwasgu â’r disgyblion: ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod ef yn ddisgybl.
9:27 Eithr Barnabas a’i cymerodd ef, ac a’i dug at yr apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan ohono ag ef, ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu.
9:28 Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerwsalem.
9:29 A chain fod yn hy yn enw yr Ar¬glwydd Iesu, efe a lefarodd ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid; a hwy a geisiasant ei ladd ef.
9:30 A’r brodyr, pan wybuant, a’i dygasant ef i waered i Cesarea, ac a’i hanfonasant ef ymaith i Darsus.
9:31 Yna yr eglwysi trwy holl Jwdea, a Galilea, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeiladwyd; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, hwy a amlhawyd.
9:32 A bu, a Phedr yn tramwy trwy’r holl wledydd, iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda.
9:33 Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a’i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glaf o’r parlys.
9:34 A Phedr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di: cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd.
9:35 A phawb a’r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a’i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd.
9:36 Ac yn Jopa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha, (yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas;) hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusennau, y rhai a wnaethai hi.