fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angau ynof.
28:19 Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i apelio at Gesar; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl.
28:20 Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi, i’ch gweled, ac i ymddiddan â chwi: canys o achos gobaith Israel y’m rhwymwyd i a’r gadwyn hon.
28:21 A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o’r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti,
28:22 Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied; oblegid am y sect hon, y mae yn hysbys i ni fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn.
28:23 Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i’w lety; i’r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a’r proffwydi, o’r bore hyd yr hwyr.
28:24 A rhai a gredasant i’r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant.
28:25 Ac a hwy yn anghytûn â’i gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd un gair, mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni,
28:26 Gan ddywedyd, Dos at y bobl yma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch:
28:27 Canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â’u clustiau, a’u llygaid a gaeasant; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a dychwelyd, ac i mi eu hiacháu hwynt.
28:28 Bydded hysbys i chwi gan hynny, anfon iachawdwriaeth Duw at y Cenhedloedd, a hwy a wrandawant.
28:29 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymadawodd yr Iddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith.
28:30 A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a’r oedd yn dyfod i mewn ato,
28:31 Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd.
EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT Y RHUFEINIAID
PENNOD 1
1:1 Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw,
1:2 (Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,)
1:3 Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd;
1:4 Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy’r atgyfodiad oddi wrth y meirw:
1:5 Trwy’r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef:
1:6 Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist:
1:7 At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.
1:8 Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd.
1:9 Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddibaid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau,
1:10 Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi.
1:11 Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu