12:17 Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r dywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad?
12:18 Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe.
12:19 Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai’r corff?
12:20 Ond yr awron llawer yw’r aelodau, eithr un corff.
12:21 Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na’r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.
12:22 Eithr yn hytrach o lawer, yr ael¬odau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol:
12:23 A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch.
12:24 Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol:
12:25 Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd.
12:26 A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae’r holl aelodau yn cyd-ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau.
12:27 Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran.
12:28 A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau.
12:29 Ai apostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb?
12:30 A oes gan bawb ddoniau i iacháu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn cyfieithu?
12:31 Eithr deisyfwch y doniau gorau: ac eto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.
PENNOD 13
13:1 Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian.
13:2 A phe byddai gennyf broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim.
13:3 A phe porthwn y tlodion â’m holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i’m llosgi, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim llesâd i mi.
13:4 Y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo,
13:5 Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg;
13:6 Nid yw lawen am anghyfiawnder, ond cydlawenhau y mae â’r gwirionedd;
13:7 Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.
13:8 Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.
13:9 Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo.
13:10 Eithr pan ddelo’r hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir.
13:11 Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd.
13:12 Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych, mewn dameg; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megis y’m hadwaenir.
13:13 Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.
PENNOD 14