mwyn chwi, fel y byddo i ras wedi amlhau, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw.
16 Oherwydd paham nid ydym yn pallu; eithr er llygru ein dyn oddi allan, er hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.
17 Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni;
18 Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.
PENNOD 5
1 Canys ni a wyddom, os ein daear ôl »—’ dŷ o’r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd.
2 Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo a’n tŷ sydd o’r nef:
3 Os hefyd wedi ein gwisgo, nidiya noethion y’n ceir.
4 Canys ninnau hefyd y rhai ym yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog: yn yr hyn nid ym yn chwennych ein diosg, ond ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd.
5 A’r hwn a’n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ysbryd.
6 Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd:
7 Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg.
8 Ond yr ydym yn hy, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r corff, a chartrcfu gyda’r Arglwydd.
9 Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai garlref y byddom, ai oddi cartref, ein hod yn gymeradwy ganddo ef.
10 Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist; fel y derby nio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg.
11 A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion: eithr i Dduw y’n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeifhio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd.
12 Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o’n plegid nii fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon.
13 Canys pa un bynnag ai amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym; ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym.
14 Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni, gan farnu ohonom hyn; os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb;
15 Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i’r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
16 Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd: ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y; cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach.
17 Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr henbethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd.
18 A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth 5; cymod;
19 Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod.
20 Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymodcr chwi a Duw.
21 Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wn.icth efi; yn bechod drosom ni; fel y’n gwnclid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.