PENNOD 6
1 A NINNAU, gan gydweithio, ydym yn atolwg i chwi, na dderbynioch ras Duw yn ofer:
2 (Canys y mae efe yn dywedyd, i!33 Mewn amser cymeradwy y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais: wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.)
3 Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth:;4 Eithr gan ein dangos ein hunain ym inhob peth fel gweinidogion Duw, mewn amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau,
5 Mewn gwialenodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau,;
6 Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd Glân, mewn cariad diragrith,
7 Yng ngair y gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar aswy,
8 Trwy barch ac amarch, trwy anghlod a chlod: megis twyllwyr, ac er hynny yn eirwir;
9 Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus; megis yn rneirw, ac wele, byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd;
10 Megis wedi ein tristau, ond yn wastad yn llawen; megis yn diodion, ond yn cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond eto yn meddiannu pob peth.
11 Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid, ein calon ni a ehangwyd.
12 Ni chyfyngwyd amoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich yffl-ysgaroedd eich hunain. \
13 Ond am yr un tal, (yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant,) ehanger\ chwithau hefyd.
14 Na ieuer chwi yn anghymharus gyda’r rhai di-gred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder acanghyfiawnder? a pha gymundeb rhwng goleuni a thy-wyllwch?
15 A pha gysondeb sydd rhwng Crist a;- Belial? neu pa ran sydd i gredadun gydag anghredadun?
16 A pha gydfod sydd rhwng teflil Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi.
17 Oherwydd paham deuwch allan o’u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chynyrddwch a dim aflan; ac mi a’ch derbyniaf chwi, l8 Ac a fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.
PENNOD 7
1 AM hynny gan fod gennym yr addew-xx idion hyn, anwylyd, ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
2 Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom neb.
3 Nid i’ch condemnio yr wyf yn dy¬wedyd: canys mi a ddywedais o’r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi.
4 Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o’ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder.
5 Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau.