Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1104

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

6 Eithr Duw, yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a’n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus.

7 Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch a’r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi, eich sêl tuag ataf fi; fel y llawenheais i yn fwy.

8 Canys er i mi eich tristau chwi mewn llythyr, nid yw editar gennyf, er bod yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristau o’r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond dros amser..

9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristau chwi, ond am eich tristau i edifeirwch: canys tristau a wnaethocb yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni.

10 Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau.

11 Canys wele hyn yma, eich tristau chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn.

12 Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o’i blegid ef a wnaethai’r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw.

13 Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwythau ar ei ysbryd ef gennych chwi oll.

14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni’m cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein host ni, yr hwn a fu wrth Titus.

15 Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef.

16 Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.


PENNOD 8

1 Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia;

2 Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn diodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy.

3 Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt w hunain;

4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint.

5 A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw:

6 Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd.

7 Eithr fel yr ydych ym mhob peth yh helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.

8 Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.

9 Canys chwi a adwaenoch ras em Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau’m gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei diodi ef.

10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a’ ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd.

11 Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwblhau hefyd o’r hyn sydd gennych.

12 Canys os bydd parodrwydd meddwl o’r blaen, yn ôl yr hyn