Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1117

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3:3 Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr ysgrifennais o'r blaen ar ychydig eiriau,

3:4 Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist,)

3:5 Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i'w sanctaidd apostolion a'i broffwydi trwy'r Ysbryd;

3:6 Y byddai'r Cenhedloedd yn gyd-etifeddion, ac yn gyd-gorff, ac yn gyd-gyfranogion o'i addewid ef yng Nghrist, trwy'r efengyl:

3:7 I'r hon y'm gwnaed i yn weinidog, yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymus weithrediad ei allu ef.

3:8 I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist;

3:9 Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist:

3:10 Fel y byddai yr awron yn hysbys i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy'r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw,

3:11 Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni:

3:12 Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef.

3:13 Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.

3:14 Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist,

3:15 O'r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear,

3:16 Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn;

3:17 Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi,

3:18 Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda'r holl saint, beth yw'r lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder;

3:19 A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y'ch cyflawner a holl gyflawnder Duw.

3:20 Ond i'r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni,

3:21 Iddo ef y byddo'r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.


PENNOD 4

4:1 Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i'r alwedigaeth y'ch galwyd iddi,

4:2 Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd a hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad;

4:3 Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd.

4:4 Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth;

4:5 Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,

4:6 Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.

4:7 Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist.

4:8 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd. Pan ddyrchafodd i'r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion.

4:9 (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear?

4:10 Yr hwn a ddisgynnodd, yw'r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.)

4:11 Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon;

4:12 I berffeithio'r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist:

4:13 Hyd onid ymgyfarfyddom oll