Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1120

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.

6:12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.

6:13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll.

6:14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder;

6:15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd:

6:16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, a'r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall.

6:17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw:

6:18 Gan weddio bob amser a phob rhyw weddi â deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy hob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint,

6:19 A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl;

6:20 Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu.

6:21 Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth:

6:22 Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi.

6:23 Tangnefedd i'r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a'r Arglwydd Iesu Grist.

6:24 Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen.

At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.


EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT Y
PHILIPPIAID

PENNOD 1

1:1 Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda'r esgobion a'r diaconiaid:

1:2 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

1:3 I'm Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch,

1:4 Bob amser ym mhob deisyfiad o'r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd,

1:5 Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yr awr hon;

1:6 Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist:

1:7 Megis y mae'n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â'ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras.

1:8 Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist.

1:9 A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o'ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr;

1:10 Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist;

1:11 Wedi eich cyflawni â ffrwythau