2:11 Megis y gwyddoch y modd y buom yn eich cynghori, ac yn eich cysuro, bob un ohonoch, fel tad ei blant ei hun,
2:12 Ac yn ymbil, ar rodio ohonoch yn deilwng i Dduw, yr hwn a'ch galwodd chwi i'w deyrnas a'i ogoniant.
2:13 Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddi-baid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr fel y mae yn wir, yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu.
2:14 Canys chwychwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi Duw, y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu; oblegid chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedl, megis hwythau gan yr Iddewon:
2:15 Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu, a'u proffwydi eu hunain, ac a'n herlidiasant ninnau ymaith, ac ydynt heb ryngu bodd Duw, ac yn erbyn pob dyn;
2:16 Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd, fel yr iacheid hwy, i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol: canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf.
2:17 A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn amddifaid amdanoch dros ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr.
2:18 Am hynny yr ewyllysiasom ddyfod atoch (myfi Paul, yn ddiau,) unwaith a dwywaith hefyd, eithr Satan a'n lluddiodd ni.
2:19 Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein gorfoledd? onid chwychwi, gerbron ein Harglwydd Iesu Grist yn ei ddyfodiad ef?
2:20 Canys chwychwi yw ein gogoniant, a'n llawenydd ni.
PENNOD 3
3:1 Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen;
3:2 Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a'n cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i'ch cadarnhau chwi, ac i'ch diddanu ynghylch eich ffydd;
3:3 Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y'n gosodwyd ni.
3:4 Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni, megis y bu, ac y gwyddoch chwi.
3:5 Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi, rhag darfod i'r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer.
3:6 Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a’ch cariad, a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau;
3:7 Am hynny y cawsom gysur, frodyr, amdanoch chwi, yn ein holl orthrymder a'n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi.
3:8 Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd.
3:9 Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd â'r hwn yr ydym ni yn llawen o'ch achos chwi gerbron ein Duw ni,
3:10 Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi?
3:11 A Duw ei hun a'n Tad ni, a'n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi.
3:12 A'r Arglwydd a'ch lluosogo, ac a'ch chwanego ym mhob cariad i'ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi:
3:13 I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a'n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda'i holl saint.
PENNOD 4