gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du y dehau.
25 Ac efe a oleuodd y lampau ger bron yr Arglwydd; fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
26 ¶ Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen.
27 Ac a arogl-darthodd arni arogl-darth peraidd; megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
28 ¶ Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl.
29 Ac efe a osododd allor y poeth-offrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymmodd arni boeth-offrwm a bwyd-offrwm; fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
30 ¶ Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.
31 A Moses, ac Aaron, a’i feibion, a olchasant yno eu dwylaw a’u traed.
32 Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesâent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
33 Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorphenodd Moses y gwaith.
34 ¶ Yna cwmmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl.
35 Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmmwl yn aros arni, a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi y tabernacl.
36 A phan gyfodai y cwmmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynai meibion Israel i’w holl deithiau.
37 Ac oni chyfodai y cwmmwl, yna ni chychwynent hwy hyd y dydd y cyfodai.
38 Canys cwmmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, y’ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.
Trydydd llyfr Moses yr hwn a elwir
Lefiticus.
Pennod I.
1 Trefn y poeth-offrymmau, 3 o eidionau, 10 o ddefaid, neu eifr, 14 ac o adar.
A’r Argllwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd,
2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn o honoch offrwm i’r Arglwydd, o anifail, sef o’r eidionau, neu o’r praidd, yr offrymmwch eich offrwm.
3 Os poeth-offrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.
4 A gosoded ei law ar ben y poeth-offrwm, ac fe a’i cymmerir ef yn gymmeradwy ganddo, i wneuthur cymmod drosto.
5 Lladded hefyd yr eidion ger bron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
6 A blinged y poeth-offrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.
7 A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân.
8 A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a’r brasder, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.
9 Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boeth-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
10 ¶ Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offrymma efe boeth-offrwm; offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl.
11 A lladded ef ger bron yr Arglwydd, o du y gogledd i’r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch.
12 A thorred ef yn ei ddarnau, gyd â’i ben a’i frasder; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.
13 Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boeth-offrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
14 ¶ Ac os poeth-offrwm o aderyn