Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1133

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3:7 Canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein dilyn ni: oblegid ni buom afreolus yn eich plith chwi;

3:8 Ac ni fwytasom fara neb yn rhad; ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch chwi;

3:9 Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod, ond fel y'n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i'n dilyn.

3:10 Canys pan oeddem hefyd gyda chwi, hyn a orchmynasom i chwi, Os byddai neb ni fynnai weithio, ni chai fwyta chwaith.

3:11 Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus, heb weithio dim, ond bod yn rhodresgar.

3:12 Ond i'r cyfryw gorchymyn yr ydym, a'u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain.

3:13 A chwithau, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni.

3:14 Ond od oes neb heb ufuddhau i'n gair trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.

3:15 Er hynny na chymerwch ef megis gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd.

3:16 Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll.

3:17 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu.

3:18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll. Amen.

Yr ail at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.


Epistol cyntaf Paul yr Apostol at
Timotheus

PENNOD 1

1:1 Paul, apostol Iesu Grist, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a'r Arglwydd Iesu Grist, ein gobaith:

1:2 At Timotheus, fy mab naturiol yn y ffydd: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a Christ Iesu ein Harglwydd.

1:3 Megis y deisyfais arnat aros yn Effesus, pan euthum i Facedonia, fel y gellit rybuddio rhai na ddysgont ddim amgen,

1:4 Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorffen, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd; gwna felly.

1:5 Eithr diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith:

1:6 Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai, ac y troesant heibio at ofer siarad;

1:7 Gan ewyllysio bod yn athrawon o'r ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru.

1:8 Eithr nyni a wyddom mai da yw'r gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlon;

1:9 Gan wybod hyn, nad i'r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac anufudd, i'r rhai annuwiol a phechaduriaid, i'r rhai disanctaidd a halogedig, i dad-leiddiaid a mam-leiddiaid, i leiddiaid dynion,

1:10 I buteinwyr, i wryw-gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus;

1:11 Yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i mi.

1:12 Ac yr ydwyf yn diolch i'r hwn a'm nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth;

1:13 Yr hwn oeddwn o'r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd,