Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1143

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Epistol Sant Paul at Philemon.

PENNOD 1

1:1 Paul, carcharor Crist Iesu, a’r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a’n cyd-weithiwr,

1:2 Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di:

1:3 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.

1:4 Yr wyf yn diolch i’m Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddiau,

1:5 Wrth glywed dy gariad, a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint;

1:6 Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu.

1:7 Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd.

1:8 Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus:

1:9 Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un a Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist.

1:10 Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau:

1:11 Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd;

1:12 Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i:

1:13 Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl.

1:14 Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd.

1:15 Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit efyn dragywydd;

1:16 Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?

1:17 Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith, derbyn ef fel myfi.

1:18 Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i;

1:19 Myfi Paul a’i hysgrifennais a’m llaw fy hun, myfi a’i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd.

1:20 Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd.

1:21 Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.

1:22 Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi y rhoddir fi i chwi.

1:23 Y mae yn dy annerch, Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu;

1:24 Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr.

1:25 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi. Amen.

At Philemon yr ysgrifennwyd Rufain, gyda’r gwas Onesimus.