Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1148

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a’i bendithiodd ef;

7:2 I’r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf, o’i gyfieithu, yw Brenin cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd, Brenin Salem, yr hyn yw, Brenin heddwch,

7:3 Heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechrau dyddiau, na diwedd einioes; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd.

7:4 Edrychwch faint oedd hwn, i’r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith.

7:5 A’r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm gan y bobl yn ôl y gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham:

7:6 Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy, a gymerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo,

7:7 Ac yn ddi-ddadl, yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well.

7:8 Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw.

7:9 Ac, fel y dywedwyf felly, yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymryd degymau.

7:10 Oblegid yr ydoedd efe eto yn lwynau ei dad, pan gyfarfu Melchisedec ag ef.

7:11 Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, (oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl,) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec, ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron?

7:12 Canys wedi newidio’r offeiriadaeth anghenraid yw bod cyfnewid ar y gyfraith hefyd.

7:13 Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o’r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu’r allor.

7:14 Canys hysbys yw, mai o Jwda y cododd ein Harglwydd ni, am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth.

7:15 Ac y mae’n eglurach o lawer eto; od oes yn ôl cyffelybrwydd Melchisedec Offeiriad arall yn codi,

7:16 Yr hwn a wnaed, nid yn ôl cyfraith gorchymyn cnawdol, eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol.

7:17 Canys tystiolaethu y mae, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.

7:18 Canys yn ddiau y mae dirymiad i’r gorchymyn sydd yn myned o’r blaen, oherwydd ei lesgedd a’i afles.

7:19 Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith i ddim, namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd; trwy yr hwn yr ydym yn nesáu at Dduw.

7:20 Ac yn gymaint nad heb lw y gwnaethpwyd ef yn Offeiriad:

7:21 (Canys y rhai hynny yn wir ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw: ond hwn trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd Offeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec:)

7:22 Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn Fachnïydd.

7:23 A’r rhai hynny yn wir, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid, oherwydd lluddio iddynt gan farwolaeth barhau:

7:24 Ond hwn, am ei fod ef yn aros yn dragywydd, sydd ag offeiriadaeth dragwyddol ganddo.

7:25 Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iacháu’r rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy.

7:26 Canys y cyfryw Archoffeiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd, oedd weddus i ni;

7:27 Yr hwn nid yw raid iddo beunydd, megis i’r offeiriaid hynny, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo’r bobl: canys hynny a wnaeth efe unwaith, pan offrymodd efe ef ei hun.

7:28 Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion a gwendid ynddynt, yn archoffeiriaid; eithr gair y llw, yr hwn a fu wedi’r gyfraith, sydd yn gwneuthur y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.