Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1151

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir;

10:9 Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail.

10:10 Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith.

10:11 Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau:

10:12 Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw,

10:13 O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef.

10:14 Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio.

10:15 Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddy wedyd o’r blaen,

10:16 Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau,

10:17 A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach.

10:18 A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod.

10:19 Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu,

10:20 Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef;

10:21 A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw:

10:22 Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glan.

10:23 Daliwn gyffes ein gobaith yn ddisigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;)

10:24 A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da:

10:25 Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai, ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu.

10:26 Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach,

10:27 Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tan, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr.

10:28 Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion:

10:29 Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras?

10:30 Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl.

10:31 Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw.

10:32 Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon:

10:33 Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau, ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly.

10:34 Canys chwi a gyd-ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus.

10:35 Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr.

10:36 Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch.yr addewid.

10:37 Oblegid ychydig bachigyn eto, a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.

10:38 A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo.

10:39 Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.