8 A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymmed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith.
9 A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod.
10 A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ol y ddefod: a’r offeiriad a wna gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
11 ¶ Ac os ei law ni chyrhaedd ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran ephah o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.
12 A dyged hynny at yr offeiriad: a chymmered yr offeiriad o hono lonaid ei law yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.
13 A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i’r offeiriad y gweddill, megis o’r bwyd-offrwm.
14 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
15 Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gyssegrwyd i’r Arglwydd; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di o siclau arian, yn ol sicl y cyssegr, yn aberth dros gamwedd.
16 A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cyssegredig, a rhodded ei bummed ran yn ychwaneg atto, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.
17 ¶ Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchymynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, etto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg.
18 A dyged hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei amryfusedd a gamgymmerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.
19 Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddïau yn erbyn yr Arglwydd.
Pennod VI.
1 Yr offrwm dros gamwedd mewn pechodau a wneler trwy wybod. 8 Cyfraith y poeth-offrwm, 14 a’r bwyd-offrwm. 19 Yr offrwm wrth gyssegru offeiriad. 24 Cyfraith y pech-offrwm.
A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a dywedyd celwydd wrth ei gymmydog am yr hyn a rodded atto i’w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawsder a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymmydog;
3 Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd am dano, neu dyngu yn anudon; am ddim o’r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt:
4 Yna, am iddo bechu, a bod yn euog, bydded iddo roddi yn ei ol y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gyd âg ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe,
5 Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon am dano; taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bummed ran atto: ar y dydd yr offrymmo dros gamwedd, rhodded ef i’r neb a’i pïau.
6 A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.
7 A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ger bron yr Arglwydd: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog o hono.
8 ¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
9 Gorchymyn i Aaron, ac i’w feibion gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poeth-offrwm: (poeth-offrwm yw, o herwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gynneuir arni.)
10 Gwisged yr offeiriad hefyd ei lïein-wisg am dano, a gwisged lodrau llïan am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poeth-aberth ar yr allor, a gosoded cf gerllaw yr allor.