Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1170

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

4:9 Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef.

4:10 Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau.

4:11 Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.

4:12 Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom.

4:13 Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o’i Ysbryd.

4:14 A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd.

4:15 Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw.

4:16 A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a’r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau.

4:17 Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.

4:18 Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn:oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A’r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad.

4:19 Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.

4:20 Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casáu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd?

4:21 A’r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i’r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.


PENNOD 5

5:1 Pob un a’r sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono.

5:2 Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef.

5:3 Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a’i orchmynion ef nid ydynt drymion.

5:4 Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu’r byd: a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r byd, sef ein ffydd ni.

5:5 Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?

5:6 Dyma’r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A’r Ysbryd yw’r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd.

5:7 Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef; y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt.

5:8 Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear; yr ysbryd, y dwfr, a’r gwaed: a’r tri hyn, yn un y maent yn cytuno.

5:9 Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy:canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab.

5:10 Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, sydd ganddo’r dystiolaeth ynddo ei hun:yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a’i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab.

5:11 A hon yw’r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef.

5:12 Yr hwn y mae’r Mab ganddo, y mae’r bywyd ganddo; a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd.

5:13 Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.

5:14 A hyn yw’r hyfder sydd gennym tuag ato ef; ei fod ef yn