Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1171

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef.

5:15 Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.

5:16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono.

5:17 Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth.

5:18 Ni a wyddom nad yw’r neb a aned o Dduw, yn pechu, eithr y mae’r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a’r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.

5:19 Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.

5:20 Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sefyn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol.

5:21 Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.


AIL EPISTOL CYFFREDINOL IOAN YR APOSTOL

PENNOD 1 1:1 Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd;

1:2 Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd.

1:3 Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.

1:4 Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad.

1:5 Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad, garu ohonom ein gilydd.

1:6 A hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo.

1:7 Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist.

1:8 Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr.

1:9 Pob un a’r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo.

1:10 Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dy^, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho:

1:11 Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef.

1:12 Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc: eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn.

1:13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.