PENNOD 5
5:1 Ac mi a welais yn neheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, lyfr wedi ei ysgrifennu oddi fewn ac oddi allan wedi ei selio â saith sêl.
5:2 Ac mi a welais angel cryf yn cyhoeddi â llef uchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei seliau ef?
5:3 Ac nid oedd neb yn y nef, nac yn y ddaear, na than y ddaear, yn gallu agoryd y llyfr, nac edrych arno.
5:4 Ac mi a wylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd ac i ddarllen y llyfr, nac i edrych arno.
5:5 Ac un o’r henuriaid a ddywedodd wrthyf, Nac wyla: wele, y Llew yr hwn sydd o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei saith sêl ef.
5:6 Ac mi a edrychais; ac wele, yng nghanol yr orseddfainc a’r pedwar anifail, ac yng nghanol yr henuriaid, yr oedd. Oen yn sefyll megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a saith lygad, y rhai ydyw saith Ysbryd Duw, wedi eu danfon allan i’r holl ddaear.
5:7 Ac efe a ddaeth, ac a gymerth y llyfr o ddeheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc.
5:8 A phan gymerth efe’r llyfr, y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant gerbron yr Oen; a chan bob un ohonynt yr oedd telynau, a ffiolau aur yn llawn o arogl-darth, y rhai ydyw gweddïau’r saint.
5:9 A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef: oblegid ti a laddwyd, ac a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl;
5:10 Ac a’n gwnaethost ni i’n Duw ni, yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid: ac ni a deyrnaswn ar y ddaear.
5:11 Ac mi a edrychais, ac a glywais lais angylion lawer ynghylch yr orseddfainc, a’r anifeiliaid, a’r henuriaid: a’u rhifedi hwynt oedd fyrddiynau o fyrddiynau, a miloedd o filoedd;
5:12 Yn dywedyd â llef uchel, Teilwng yw’r Oen, yr hwn a laddwyd, i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a bendith.
5:13 A phob creadur a’r sydd yn y nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, a’r pethau sydd yn y môr, ac oll a’r sydd ynddynt, a glywais i yn dywedyd, I’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i’r Oen, y byddo’r fendith, a’r anrhydedd, a’r gogoniant, a’r gallu, yn oes oesoedd.
5:14 A’r pedwar anifail a ddywedasant, Amen. A’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant i lawr, ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.
PENNOD 6
6:1 Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o’r seliau, ac mi a glywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel trwst taran. Tyred, a gwêl.
6:2 Ac mi a welais; ac wele farch gwyn: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron: ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.
6:3 A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd. Tyred, a gwêl.
6:4 Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a’r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.
6:5 A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais, ac wele farch du: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a chlorian ganddo yn ei law.
6:6 Ac mi a glywais lais yng nghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog; a’r olew a’r gwin, na wna niwed iddynt.
6:7 A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd. Tyred, a gwêl.
6:8 Ac mi a edrychais: ac wele