11 A dïosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân.
12 A chynneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddiffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poeth-offrwm arni, a llosged wêr yr aberth hedd arni.
13 Cynneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.
14 ¶ Dyma hefyd gyfraith y bwyd-offrwm. Dyged meibion Aaron ef ger bron yr Arglwydd, o flaen yr allor:
15 A choded o hono yn ei law o beilliaid y bwyd-offrwm, ac o’i olew, a’r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd-offrwm; a llosged ei goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd.
16 A’r gweddill o hono a fwytty Aaron a’i feibion: yn groyw y bwyttêir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwyttânt ef.
17 Na phober ef trwy lefain. Rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd: peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd.
18 Pob gwrryw o blant Aaron a fwyttânt hyn: deddf dragywyddol fydd yn eich cenhedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.
19 ¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
20 Dyma offrwm Aaron a’i feibion, yr hwn a offrymmant i’r Arglwydd, ar y dydd enneinier ef. Degfed ran ephah o beilliaid yn fwyd-offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a’i hanner brydnawn.
21 Gwneler ef trwy olew mewn padell: yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu; ac offrymma ddarnau y bwyd-offrwm wedi ei grasu, yn arogl peraidd i’r Arglwydd.
22 A’r offeiriad o’i feibion ef, yr hwn a enneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragywyddol: llosger y cwbl i’r Arglwydd.
23 A phob bwyd-offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwyttâer ef.
24 ¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
25 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poeth-offrwm, y lleddir yr aberth dros bechod ger bron yr Arglwydd: sancteiddiolaf yw efe.
26 Yr offeiriad a’i hoffrymmo dros bechod, a’i bwytty: yn y lle sanctaidd y bwyttêir ef, y’nghynteddfa pabell y cyfarfod.
27 Beth bynnag a gyffyrddo â’i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o’i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.
28 A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr.
29 Bwyttâed pob gwrryw ym mysg yr offeiriaid ef: sancteiddiolaf yw efe.
30 Ac na fwyttâer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o’i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymmod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.
Pennod VII.
1 Cyfraith yr offrwm dros gamwedd, 11 a’r aberthau hedd: 12 pa un bynnag fo ai aberth dïolch, 16 ai adduned, ai rhodd o wirfodd. 22 Gwahardd y brasder, 26 a’r gwaed. 28 Rhan yr offeiriad o’r aberthau hedd.
Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd: sancteiddiolaf yw.
2 Yn y man lle y lladdant y poeth-offrwm, y lladdant yr aberth dros gamwedd; a’i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch.
3 A’i holl wêr a offrymma efe o hono; y gloren hefyd, a’r weren fol.
4 A’r ddwy aren, a’r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dỳn efe ymaith.
5 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd: aberth dros gamwedd yw.
6 Pob gwrryw ym mysg yr offeiriaid a’i bwytty: yn y lle sanctaidd y bwyttêir ef: sancteiddiolaf yw.
7 Fel y mae yr aberth dros bechod, felly y bydd yr aberth dros gamwedd; un gyfraith sydd iddynt: yr offeiriad, yr hwn a wna gymmod âg ef, a’i pïau.
8 A’r offeiriad a offrymmo boeth-offrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poeth-offrwm a offrymmodd efe.
9 A phob bwyd-offrwm a graser mewn ffwrn, a’r hyn oll a wneler