Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1189

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

19:7 Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a'i wraig ef a'i paratodd ei hun.

19:8 A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint.

19:9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw'r rhai a elwir swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywed odd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw'r rhai hyn.

19:10 Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, i'w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth.

19:11 Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele farch gwyn; a'r hwn oeddyn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela.

19:12 A'i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun:

19:13 Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw.

19:14 A'r lluoedd oedd yn y nef a'i canlynasant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisgo â lliain main, gwyn, a glân.

19:15 Ac allan o'i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro'r cenhedloedd ag ef: ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog.

19:16 Ac y mae ganddo ar ei wisg, ac ar ei forddwyd, enw wedi ei ysgrifennu, BRENIN BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWYDDI.

19:17 Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef, Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr;

19:18 Fel y bwytaoch gig brenhinoedd, a chig pen-capteiniaid, a chig y cedyrn, a chig meirch, a'r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chig holl ryddion a chaethion, a bychain a mawrion.

19:19 Ac mi a welais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear, a'u lluoedd, wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lu ef.

19:20 A daliwyd y bwystfil, a chydag ef y gau broffwyd, yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef. Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r llyn tân yn llosgi â brwmstan.

19:21 A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cig hwynt.


PENNOD 20

20:1 Ac mi a welais angel yn disgyn o'r nef, a chanddo agoriad y pydew diwaelod, a chadwyn fawr yn ei law.

20:2 Ac efe a ddaliodd y ddraig, yr hen sarff, yr hon yw Diafol a Satan, ac a'i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd,

20:3 Ac a'i bwriodd ef i'r pydew diwaelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllai efe'r cenhedloedd mwyach, nes cyflawni'r mil o flynyddoedd: ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser.

20:4 Ac mi a welais orseddfeinciau, a hwy a eisteddasant amynt, a barn a roed iddynt hwy: ac mi a welais eneidiau'r rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, a'r rhai nid addolasent y bwystfil na'i ddelw ef, ac ni dderbyniasent ei nod ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo; a hwy a fuant fyw ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd.

20:5 Eithr y lleill o'r meirw ni fuant fyw drachefn, nes cyflawni'r mil blynyddoedd. Dyma'r atgyfodiad cyntaf.