Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1190

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

20:6 Gwynfydedig a sanctaidd yw'r hwn sydd â rhan iddo yn yr atgyfodiad cyntaf: y rhai hyn nid oes i'r ail farwolaeth awdurdod arnynt, eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw ac i Grist, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd.

20:7 A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o'i garchar;

20:8 Ac efe a â allan i dwyllo'r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i'w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr.

20:9 A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a'r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o'r nef, ac a'u hysodd hwynt.

20:10 A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i'r llyn o dân a brwmstan, lle y mae'r bwystfil a'r gau broffwyd; a hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd.

20:11 Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a'r nef; a lle ni chafwyd iddynt.

20:12 Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a'r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.

20:13 A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd.

20:14 A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i'r llyn o dân. Hon yw'r ail farwolaeth.

20:15 A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i'r llyn o dân.


PENNOD 21

21:1 Ac mi a welais nef newydd, a daear newydd: canys y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf a aeth heibio; a'r môr nid oedd mwyach. 21:2 A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o'r nef, wedi ei pharatoi fel priodasferch wedi ei thrwsio i'w gŵr.

21:3 Ac mi a glywais lef uchel allan o'r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell Duw gyda dynion, ac efe a drig gyda hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt.

21:4 Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt, a marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach: oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio.

21:5 A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna: canys y mae'r geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon.

21:6 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Darfu. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd. I'r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad.

21:7 Yr hwn sydd yn gorchfygu, a etifedda bob peth: ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab.

21:8 Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw'r ail farwolaeth.

21:9 A daeth ataf un o'r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saitn bla diwethaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd. Tyred, mi a ddangosaf i ti'r briodasferch, gwraig yr Oen.

21:10 Ac efe a'm dug i ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, ac a ddangosodd i mi'r ddinas fawr, Jerwsalem sanctaidd, yn disgyn allan o'r nef oddi wrth Dduw,

21:11 A gogoniant Duw ganddi: a'i golau oedd debyg i faen o'r gwerthfawrocaf, megis maen iasbis, yn loyw fel grisial;

21:12 Ac iddi fur mawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau