Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1191

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel.

21:13 O du'r dwyrain, tri phorth; o du'r gogledd, tri phorth; o du'r deau, tri phorth; o du'r gorllewin, tri phorth.

21:14 Ac yr oedd mur y ddinas a deuddeg sylfaen iddo, ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen.

21:15 A'r hwn oedd yn ymddiddan â mi, oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro'r ddinas, a'i phyrth hi, a'i mur.

21:16 A'r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl, a'i hyd sydd gymaint â'i lled. Ac efe a fesurodd y ddinas a'r gorsen, yn ddeuddeng mil o ystadau. A'i hyd, a'i lled, a'i huchder, sydd yn ogymaint.

21:17 Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo'r angel.

21:18 Ac adeilad ei mur hi oedd o faen iasbis; a'r ddinas oedd aur pur, yn debyg i wydr gloyw.

21:19 A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu a phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen iasbis; yr ail, saffir; y trydydd, chalcedon; y pedwerydd, smaragdus;

21:20 Y pumed, sardonycs; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolithus; yr wythfed, beryl; y nawfed, topasion; y degfed, chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, hyacinthus; y deuddegfed, amethystus.

21:21 A'r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; a phob un o'r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloyw.

21:22 A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a'r Oen, yw ei theml hi.

21:23 A'r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na'r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw'r Oen.

21:24 A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a'u hanrhydedd iddi hi.

21:25 A'i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno.

21:26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi.

21:27 Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.


PENNOD 22

22:1 Ac efe a ddangosodd imi afon bur o ddwfr y bywyd, disglair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a'r Oen.

22:2 Yng nghanol ei heol hi, ac o ddau tu'r afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i iachau'r cenhedloedd;

22:3 A phob melltith ni bydd mwyach: ond gorseddfainc Duw a'r Oen a fydd ynddi hi; a'i weision ef a'i gwasanaethant ef,

22:4 A hwy a gânt weled ei wyneb ef; a'i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt.

22:5 Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid y mae'r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd.

22:6 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir: ac Arglwydd Dduw'r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i'w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys.

22:7 Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.

22:8 A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a'u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi'r pethau hyn.

22:9 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Gwêl na wnelych: canys cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y proffwydi, ac i'r rhai sydd yn cadw geiriau'r llyfr hwn. Addola Dduw.

22:10 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: oblegid y mae'r amser yn agos.

22:11 Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a'r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto.