efe i feibion Israel offrymmu eu hoffrymmau i’r Arglwydd, yn anialwch Sinai.
PENNOD VIII.
1 Moses yn cyssegru Aaron a’i feibion. 14 Eu haberth dros bechod. 18 Eu poeth-offrwm. 22 Hwrdd y cyssegriadau. 31 Y lle a’r amser y cyssegrid hwynt.
A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Cymmer Aaron a’i feibion gyd âg ef, a’r gwisgoedd, ac olew yr enneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw:
3 A chasgl yr holl gynnulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod.
4 A gwnaeth Moses fel y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynnulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.
5 A dywedodd Moses wrth y gynnulleidfa, Dyma y peth a orchymynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.
6 A Moses a ddug Aaron a’i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr.
7 Ac efe a roddes am dano ef y bais, ac a’i gwregysodd ef â’r gwregys, ac a wisgodd y fantell am dano, ac a roddes yr ephod am dano, ac a’i gwregysodd â gwregys cywraint yr ephod, ac a’i cauodd am dano ef.
8 Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a’r Thummim yn y ddwyfronneg.
9 Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchymynasai yr Arglwydd i Moses.
10 A Moses a gymmerodd olew yr enneiniad, ac a enneiniodd y tabernacl, a’r hyn oll oedd ynddo; ac a’u cyssegrodd hwynt.
11 Ac a daenellodd o hono ar yr allor saith waith, ac a enneiniodd yr allor a’i holl lestri, a’r noe hefyd a’i throed, i’w cyssegru.
12 Ac efe a dywalltodd o olew yr enneiniad ar ben Aaron, ac a’i henneiniodd ef, i’w gyssegru.
13 A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau am danynt, a gwregysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchymynasai’r Arglwydd wrth Moses.
14 Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylaw ar ben bustach yr aberth dros bechod;
15 Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymmerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cyssegrodd hi, i wneuthur cymmod arni.
16 Efe a gymmerodd hefyd yr holl wer oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u gwer; a Moses a’i llosgodd ar yr allor.
17 A’r bustach, a’i groen, a’i gig, a’i fiswail, a losgodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwersyll: fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
18 ¶ Ac efe a ddug hwrdd y poeth-offrwm: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylaw ar ben yr hwrdd:
19 Ac efe a’i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch.
20 Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a’r gwer.
21 Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses, yr hwrdd oll ar yr allor. Poeth-offrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; fel y gorchymynnodd yr Arglwydd i Moses.
22 ¶ Ac efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cyssegriad: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylaw ar ben yr hwrdd.
23 Ac efe a’i lladdodd; a Moses a gymmerodd o’i waed, ac a’i rhoddes ar gwrr isaf clust ddehau Aaron, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau.
24 Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o’r gwaed ar gwrr isaf eu clust ddehau, ac ar fawd eu llaw ddehau, ac ar fawd eu troed dehau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.
25 Ac efe a gymmerodd hefyd y gwer, a’r gloren, a’r holl wer oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u brasder, a’r ysgwyddog ddehau.
26 A chymmerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd ger bron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a’u gosododd ar y gwer, ac ar yr ysgwyddog ddehau:
27 Ac a roddes y cwbl ar ddwylaw Aaron, ac ar ddwylaw ei feibion, ac