dragywyddol; fel y gorchymynnodd yr Arglwydd.
16 ¶ A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd wrth Eleazar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd,
17 Paham na fwyttasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; oherwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, ger bron yr Arglwydd?
18 Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr: ei fwytta a ddylasech yn y cysegr; fel y gorchymynnais.
19 A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddyw yr offrymmasant eu haberth dros bechod, a’u poethoffrwm, ger bron yr Arglwydd; ac fel hyn y digwyddodd i mi; am hynny os bwyttawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd?
20 A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.
Pennod XI.
1 Pa anifeiliaid a ellir, 4 a pha rai ni ellir eu bwytta. 9 Pa bysgod hefyd, 13 a pha adar. 29 Pa ymlusgiaid sydd aflan.
A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt,
2 Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma yr anifeiliaid a fwyttêwch, o’r holl anifeiliaid sydd ar y ddaear.
3 Beth bynnag a hollto yr ewin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o’r anifeiliaid; hwnnw a fwyttêwch.
4 Ond y rhai hyn ni fwyttêwch; o’r rhai a gnoant eu cil, ac o’r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti yr ewin; aflan fydd i chwi.
5 A’r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi yr ewin; aflan yw i chwi.
6 A’r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi yr ewin; aflan yw i chwi.
7 A’r llwdn hwch, am ei fod yn hollti yr ewin, ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin, a heb gnoi ei gil; aflan yw i chwi.
8 Na fwyttêwch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.
9 ¶ Hyn a fwyttêwch o bob dim a’r sydd yn y dyfroedd: pob peth y mae iddo esgyll a chèn, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwyttêwch.
10 A phob dim nid oes iddo esgyll a chèn, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymmudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych.
11 Byddant ffiaidd gennych: na fwyttêwch o’u cig hwynt, a ffieiddiwch eu burgyn hwy.
12 Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chèn iddo, ffieiddbeth fydd i chwi.
13 ¶ A’r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o’r adar; na fwyttêwch hwynt, ffieidd-dra ydynt: sef yr eryr, a’r ŵyddwalch, a’r fôr-wennol;
14 A’r fwltur, a’r barcud yn ei ryw;
15 Pob cigfran yn ei rhyw;
16 A chyw yr estrys, a’r fran nos, a’r gog, a’r gwalch yn ei ryw;
17 Ac aderyn y cyrph, a’r fulfran, a’r dylluan,
18 A’r gogfran, a’r pelican, a’r bïogen,
19 A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum.
20 Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd-dra yw i chwi.
21 Ond hyn a fwyttêwch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;
22 O’r rhai hynny y rhai hyn a fwyttêwch: y locust yn ei ryw, a’r selam yn ei ryw, a’r hargol yn ei ryw, a’r hagab yn ei ryw.
23 A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd-dra fydd i chwi.
24 Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â’u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.
25 A phwy bynnag a ddygo ddim o’u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
26 Am bob anifail fydd yn hollti’r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt.
27 Pob un hefyd a gerddo ar ei