Llyfr cyntaf Moses
yr hwn a elwir
Genesis
Pennod I.
1 Creadwriaeth nef a daear, 3 a’r goleuni, 6 a’r ffurfafen. 9 Neillduo y ddaear oddi wrth y dyfroedd, 11 a’i gwneuthur yn ffrwythlawn. 14 Yr haul, y lleuad, a’r sêr; 20 y pysgod a’r adar, 24 a’r anifeiliaid, 26 dyn ar lun Duw. 29 Ordeinio lluniaeth ac ymborth.
Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.
2 A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd Duw yn ymsymmud ar wyneb y dyfroedd.
3 A Duw a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu.
4 A Duw a welodd y goleuni, mai da oedd: a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch.
5 A Duw a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf.
6 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen y’nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd.
7 A Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a’r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.
8 A’r ffurfafen a alwodd Duw yn Nefoedd: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, yr ail ddydd.
9 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu.
10 A’r sychdir a alwodd Duw yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a Duw a welodd mai da oedd.
11 A Duw a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had a phrennau ffrwythlawn yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu.
12 A’r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd.
13 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y trydydd dydd.
14 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.
15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu.
16 A Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu y nos: a’r sêr hefyd a wnaeth efe.
17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaear,
18 Ac i lywodraethu y dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd Duw mai da oedd.
19 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pedwerydd dydd.
20 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.
21 A Duw a greodd y môrfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd.
22 A Duw a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhêwch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a llïosoged yr ehediaid ar y ddaear.
23 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pummed dydd.
24 ¶ Duw hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.