perffaith-gwbl, yn boethoffrwm; ac un hesbin flwydd, berffaith-gwbl, yn bech-aberth; ac un hwrdd perffaith-gwbl, yn aberth hedd;
6:15 Cawellaid o fara croyw hefyd, sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew, ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a’u bwyd-offrwm, a’u diod-offrwm hwy.
6:16 A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr ARGLWYDD, ac offrymed ei bech-aberth a’i boethoffrwm ef.
6:17 Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r ARGLWYDD, ynghyd â’r cawellaid bara croyw; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd-offrwm a’i ddiod-offrwm ef.
6:18 Ac eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth; a chymered flew pen ei Nasareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd,
6:19 Cymered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen groyw o’r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylo’r Nasaread, wedi eillio ohono ei Nasareaeth;
6:20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD: sanctaidd yw hyn i’r offeiriad, heblaw parwyden y cyhwfan, a phalfais; y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin.
6:21 Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd, a’i offrwm i’r ARGLWYDD am ei Nasareaeth, heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heblaw cyfraith ei Nasareaeth.
6:22 Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
6:23 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt,
6:24 Bendithied yr ARGLWYDD di, a chadwed di:
6:25 A llewyrched yr ARGLWYDD ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt:
6:26 Dyrchafed yr ARGLWYDD ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd.
6:27 Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a’u bendithiaf hwynt.
PENNOD 7 7:1 A ar y dydd y gorffennodd Moses godi’r tabernacl, a’i eneinio a’i sancteiddio ef, a’i holl ddodrefn, yr allor hefyd a’i holl ddodrefn, a’u heneinio a’u sancteiddio hwynt;
7:2 Yr offrymodd tywysogion Israel, penaethiaid tŷ eu tadau, (y rhai oedd i dywysogion y llwythau, ac wedi eu gosod ar y rhifedigion:)
7:3 A’u hoffrwm a ddygasant hwy ger¬bron yr ARGLWYDD, chwech o fenni diddos, a deuddeg o ychen; men dros bob dau dywysog, ac ych dros bob un: a cherbron y tabernacl y dygasant hwynt.
7:4 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
7:5 Cymer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod, a dod hwynt i’r Lefiaid, i bob un yn ôl ei wasanaeth.
7:6 A chymerodd Moses y menni, a’r ychen, ac a’u rhoddodd hwynt i’r Lefiaid.
7:7 Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt;
7:8 A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari, yn ôl eu gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.
7:9 Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cysegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.
7:10 A’r tywysogion a offrymasant tuag at gysegru’r allor, ar y dydd yr eneiniwyd hi; a cherbron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion.
7:11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymant eu hoffrymau, tuag at gysegru’r allor.
7:12 Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, dros lwyth Jwda.
7:13 A’i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl sicl y cysegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:
7:14 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:
7:15 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwrn poeth:
7:16 Un bwch geifr yn bech-aberth:
7:17 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesp-