dieuog gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron Israel; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr ARGLWYDD.
º33 Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr ARGLWYDD : a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi. : 24 Adeiledwch i chwi ddinasoedd i’ch plant, a chorlannau i’ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch genau. . 25 A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnant megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn.
º26 Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid, a’n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead.
º27 A’th weision a ânt drosodd o flaen yr ARGLWYDD i’r rhyfel, pob un yn arfog i’r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.
º28 A gorchmynnodd Moses i Eleasat yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennau-cenedl llwythau meibion Israel, o’u plegid hwynt:
º29 A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i’r rhyfel o Haen yr ARGLWYDD, a darostwng y wlad o’ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenog- aeth:
º30 Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan.
º31 A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd yr ARGLWYDD wrth dy weision, felly y gwnawn ni.
º32 Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr ARGLWYDD, fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen gennym ni.
º33 A rhoddodd Moses iddynt, sefi feib¬ion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff, frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.
º34 A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer, ‘.
º35 Ac Atroth, Soffan, a Jaaser, a Jog- bea,
º36 A Beth-nimra, a Beth-haran, dinaseedd caerog; a chorlannau defaid.
º37 A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim; "
º38 Nebo hefyd, a Baal-meon, (wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant. –
º39 A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead, ac a’i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi.
º40 A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi.
º41 Ac aeth Jair mab Manasse, ac a enillodd eu pentrefydd hwynt, ac a’u galwodd hwynt Hafoth-Jair.
º42 Ac aeth Noba, ac a enillodd Cenath a’i phentrefydd, ac a’i galwodd ar ei enw ei hun, Noba.
PENNOD 33 º1 DYMA deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron.
º2 A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan’ yn ôl so. teithiau, wrth orchy- yn yr ARGLWYDD: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan.
º3 A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf: trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan a llaw uchet yng ngolwg yr Eifftiaid oll.
º4 (A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf-anedig, y rhai a laddasai yr ARGLWYDD yn eu mysg; a gwnaethai yr ARGLWYDD farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.)
º5 A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth.
º6 A chychwynasant o Succoth, a gwer¬syllasant yn Etham, yr hon sydd yog nghwr yr anialwch. »
º7 A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi-hahiroth, yr hon sydd ct flaen Baal-Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.
º8 A chychwynasant o Pi-hahiroth, ac a aethant trwy ganol y mor i’r aniatwch, a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara.