Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/19

Gwirwyd y dudalen hon

mlwydd pan fu y dyfroedd diluw ar y ddaear.

7 ¶ A Noah a aeth i mewn, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion gyd âg ef, i’r arch, rhag y dwfr diluw.

8 O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear,

9 Yr aeth i mewn at Noah i’r arch bob yn ddau, yn wrryw ac yn fenyw, fel y gorchymynasai Duw i Noah.

10 Ac wedi saith niwrnod y dwfr diluw a ddaeth ar y ddaear.

11 ¶ Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noah, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd.

12 A’r gwlaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos.

13 O fewn corph y dydd hwnnw y daeth Noah, a Sem, a Cham, a Japheth, meibion Noah, a gwraig Noah, a thair gwragedd ei feibion ef gyd â hwynt, i’r arch.

14 Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw.

15 A daethant at Noah i’r arch bob yn ddau, o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes.

16 A’r rhai a ddaethant, yn wrryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchymynasai Duw iddo. A’r Arglwydd a gauodd arno ef.

17 A’r diluw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a’r dyfroedd a gynnyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.

18 A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynnyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a’r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.

19 A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd.

20 Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tu ag i fynu: a’r mynyddoedd a orchuddiwyd.

21 A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd.

22 Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o’r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw.

23 Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ïe, dilëwyd hwynt o’r ddaear: a Noah a’r rhai oedd gyd âg ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.

24 A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.

Pennod VIII.

1 Y dyfroedd yn llonyddu. 4 Yr arch yn gorphwys ar fynyddoedd Ararat. 7 Y gigfran a’r golommen. 15 Noah, ar orchymyn Duw, 18 yn myned allan o’r arch. 20 Efe yn adeiladu allor, ac yn aberthu aberth: 21 yr hwn y mae Duw yn ei dderbyn, ac yn addaw na felldithiai y ddaear mwyach.

A Duw a gofiodd Noah, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gyd ag ef yn yr arch : a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant.

2 Cauwyd hefyd ffynhonnau y dyfnder a ffenestri y nefoedd; a lluddiwyd y gwlaw o’r nefoedd.

3 A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ym mhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.

4 ¶ Ac yn y seithfed mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, y gorphwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.

5 A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y gwelwyd pennau y mynyddoedd.

6 ¶ Ac ym mhen deugain niwrnod yr agorodd Noah ffenestr yr arch a wnaethai efe.

7 Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.

8 Ac efe a anfonodd golommen oddi wrtho, i weled a dreiasai y dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear.

9 Ac ni chafodd y golommen orphwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd atto ef i’r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynodd ei law, ac a’i cymmerodd hi, ac a’i derbyniodd hi atto i’r arch.

10 Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golommen allan o’r arch.