11 A’r golommen a ddaeth atto ef ar brydnawn; ac wele ddeilen olew-wydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noah dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear.
12 Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golommen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith atto ef mwy.
13 ¶ Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noah a symmudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.
14 Ac yn yr ail mis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, y ddaiar a sychasai.
15 ¶ A llefarodd Duw wrth Noah, gan ddywedyd,
16 Dos allan o’r arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyd â thi.
17 Pob peth byw a’r sydd gyd â thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliad, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyd â thi: heppiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.
18 A Noah a aeth allan, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion, gyd âg ef.
19 Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaiar, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o’r arch.
20 A Noah a adeiladodd allor i’r Arglwydd, ac a gymmerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymmodd boeth-offrymmau ar yr allor.
21 A’r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felldithio y ddaear mwy er mwyn dyn: o herwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuengctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
22 Pryd hau, a chynhauaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gauaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.
Pennod IX.
1 Duw yn bendithio Noah; 4 yn gwahardd gwaed a llofruddiaeth. 9 Cyfammod Duw, 13 a arwyddoccêir trwy yr enfys. 18 Noah yn llenwi y byd, 20 yn plannu gwinllan, 21 yn meddwi, ac yn cael ei watwar gan ei fab: 25 yn melldigo Canaan, 26 yn bendithio Sem, 27 yn gweddïo dros Japheth, 29 ac yn marw.
Duw hefyd a fendithiodd Noah a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a llïosogwch, a llenwch y ddaear.
2 Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymmudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
3 Pob ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.
4 ¶ Er hynny na fwyttêwch gig ynghyd â’i einioes, sef ei waed.
5 Ac yn ddïau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynaf fi: o law pob bwystfil y gofynaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynaf einioes dyn.
6 A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, o herwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn.
7 Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhêwch, eppiliwch ar y ddaear, a llïosogwch ynddi.
8 A Duw a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gyd âg ef, gan ddywedyd,
9 Ac wele myfi, ïe myfi, ydwyf yn cadarnhâu fy nghyfammod â chwi, ac â’ch had ar eich ol chwi;
10 Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyd â chwi, â’r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyd â chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear.
11 A mi a gadarnhâf fy nghyfammod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr diluw, ac ni bydd diluw mwy i ddifetha’r ddaear.
12 A Duw a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw a’r y sydd gyd â chwi, tros oesoedd tragywyddol:
13 Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngof fi a’r ddaiar.
14 A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmmwl.
15 A mi a gofiaf fy nghyfammod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddiluw mwy, i ddifetha pob cnawd.