frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandtwch;
º16 Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr ARGLWYDD dy DDUW yn Horeb, yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Na ehlywyf mwyach lais yr ARGLWYDD fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw.
º17 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant.
º18 Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo.
º19 A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy esm, myfi a’i gofynnaf ganddo.
º20 Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth.
º21 Ac os dywedi yn dy galon. Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr ARGLWYDD?
º22 Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr ARGLWYDD, a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr ARGLWYDD; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.
PENNOD 19
º1 1 Pan dorro yr ARGLWYDD dy DDUW ymaith y cenhedloedd y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn rhoddi eu tir i ti, a’i feddiannu ohonot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai;
º2 Neilltua i ti dair dinas yng nghanol dy dir, yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti i’w feddiannu.
º3 Paratoa ffordd i ti, a thraeana derfyn dy dir, yr hwn a rydd yr ARGLWYDD dy DDUW yn etifeddiaeth i ti, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.
º4 Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffy yno, i fyw: yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod, ac yntau neb ei gasáu ef o’r blaen;
º5 Megis pan elo un gyda’i gymydog i’r coed i gymynu pren, ac a estyn ei law a’r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haearn o’r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o’r dinasoedd hyn, a byw:
º6 Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd, a’i galon yn llidiog, a’i oddi-p/eddyd, am fod y ffordd yn hir, a’i daro ef yn farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasáu ef o’r blaen.
º7 Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Tair dinas a neilltui i ti.
º8 A phan helaetho yr ARGLWYDD dy DDUW dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau;
º9 Os cedwi y gorchmynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw, i garu yr AR¬GLWYDD dy DDUW, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser; yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn:
º10 Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i’th erbyn.
º11 Ond os bydd gŵr yn casáu ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a’i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o’r dinasoedd hyn;
º12 Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed, fel y byddo farw.
º13 Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti.
º14 JT Na symud derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o’r blaen; o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti i’w feddiannu.
º15 Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o’r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth.
º16 Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef;
º17 Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt gerbron