fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd en diwedd hwynt: canys cenhedlaeth diofaus ydynt hwy, meibion. heb ffyddlo.ideb ynddynt.
º21 Hwy a yrasant eiddigedd arnaf a’r peth nid oedd DDUW; digiasant fi a’u hofereddi’ minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau a’r rhai nid ydynt bobl; a chenedl ynfyd y digiaf hwynt.
º22 Canys tan a gyneuwyd yn fy nig, ‘ac a lysg hyd uffern isod, ac a ddifa y tir .a’i gynnyrch, ac a wna i sylfeini’r mynydd- oedd ffaglu.
º23 Casglaf ddrygau araynt; treuliaf fy saethau arnynt.
º24 Llosgedig fyddant gan newyn, ac wedi eu bwyta gan wres poeth, a chwerw ddinistr: anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod, ynghyd â gwenwyn seirff y flwch.
º25 Y cleddyf oddi allan, a dychryn oddi fewn, a ddifetha y gŵr ieuanc a’r wyry tiefyd, y plentyn sugno ynghyd â’r gŵr briglwyd.
º26 Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gong-lau, paraf i’w coffadwriaeth ddarfod o iysg dynion;
º27 Oni bai i mi ofni dig y gelyn, rhag i’w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddi-eithr, a rhag dywedyd ohonynt, Ein llaw uchel ni, ac nid yr ARGLWYDD, a wnaeth hyn oll.
º28 Canys cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt.
º29 O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd ! O Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r ARGLWYDD alrnynt?
º31 Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr.
º32 Canys o winwydden Sodom, ac o feysydd Gomorra, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawn-win bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt.
º33 Gwenwyn dreigiau yw eu gwia hwynt, a chreulon wenwyn asbiaid.
º34 Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi, wedi ei selio ymysg fy nhrysorau?
º35 I mi y perthyn dial, a thalu’r pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynl: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt.
º36 Canys yr ARGLWYDD a farna i bobl, ac a edifarha am ei weision; pan welo ymado o’u nerth, ac nad oes na gwar-chaeedig, na gweddilledig.
º37 Ac efe a ddywed. Pa le y mae eu duwiau hwynt, a’r graig yr ymddiriedasant ynddi,
º38 Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau, ac a yfasant win eu diod-offrwm? codam a chynorthwyant chwi, a byddant loches i chwi.
º39 Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o’m llaw.
º40 Canys codaf fy llaw i’r nefoedd, a dywedaf. Mi a fyddaf fyw byth.
º41 Os hogaf fy nghleddyf disglair, ‘ac ymaflyd o’m llaw mewn barn; dychwelaf ddial ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i’m caseion.
º42 Meddwaf fy saethau â gwaed, (a’m cleddyf a fwyty gig,) a gwaed y lladdedig a’r caeth, o ddechrau dial ar y gelyn.
º43 Y cenhedloedd, llawenhewch gyda’i bobl ef: canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion, ac a drugarha wrth ei dir a’i bobl ei hun.
º44 A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gan hon lle y clybu’r bobl, efe a Josua mab Nun.
º45 A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel:
º46 A dywedodd wrthynt, Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyfyn eu tystiolaethu wrthych heddiw; y rhai a orchmynnwch i’ch plant, i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon.
º47 Canys nid gair ofer yw hwn i chwi: oherwydd eich einioes chwi yw efe; a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.
º48 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses yng nghorff y dydd hwnnw, gan ddywedyd,
º49 Esgyn i’r mynydd Abarim hwn, sef mynydd Nebo, yr hwn sydd yn nhir Moab, ar gyfer Jericho; ac edrych ar wlad Canaan, yr hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth.
º50 A bydd farw yn y mynydd yr esgynni iddo, a chasgler di at dy bobl, megis y bu farw Aaron dy