Pennod XIII.
1 Abram a Lot yn dychwelyd o’r Aipht. 7 Trwy anghyttundeb yn ymadael â’u gilydd. 10 Lot yn myned i Sodom ddrygionus. 14 Duw yn adnewyddu y cyfammod i Abram. 18 Yntau yn symmudo i Hebron, ac yn adeiladu allor yno.
Ac Abram a aeth i fynu o’r Aipht, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gyd âg ef, i’r dehau.
2 Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur.
3 Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai;
4 I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd.
5 ¶ Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gyd âg Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll.
6 A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd.
7 Cynnen hefyd oedd rhwng bugeilydd anifeiliaid Abram a bugeilydd anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Phereziaid oedd yna yn trigo yn y wlad.
8 Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, attolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; o herwydd brodyr ydym ni.
9 Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilldua, attolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddehau; ac os ar y llaw ddehau, minnau a droaf ar yr aswy.
10 A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorrah, fel gardd yr Arglwydd, fel tir yr Aipht, ffordd yr elych i Soar.
11 A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tu a’r dwyrain: felly yr ymneillduasant bob un oddi wrth ei gilydd.
12 Abram a drigodd yn nhir Canaan, a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom.
13 A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.
14 ¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneillduo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tu a’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, a’r gorllewin.
15 Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth.
16 Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
17 Cyfod, rhodia trwy y wlad, ar ei hŷd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi.
18 Ac Abram a symmudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd y’ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd.
Pennod XIV.
1 Pedwar brenhin yn rhyfela yn erbyn pump. 12 Dala Lot yn garcharor. 14 Abram yn ei achub ef. 18 Melchisedec yn bendithio Abram. 20 Abram yn talu degwn iddo ef. 22 Wedi i’w gyfranwyr gael eu rhannau, mae efe yn rhoddi y rhan arall o’r ysglyfaeth i frenhin Sodom.
A bu yn nyddiau Amraphel brenhin Sinar, Arioch brenhin Elasar, Cedorlaomer brenhin Elam, a Thidal brenhin y cenhedloedd;
2 Wneuthur o honynt ryfel â Bera brenhin Sodom, ac â Birsa brenhin Gomorrah, â Sinab brenhin Admah, ac â Semeber brenhin Seboim, ac â brenhin Bela, hon yw Soar.
3 Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw y môr heli.
4 Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a’r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.
5 A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai oedd gyd âg ef, ac a darawsant y Rephaimiaid yn Asteroth-Carnaim, a’r Zuziaid yn Ham, a’r Emiaid yn Safeh-Ciriathaim,
6 A’r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.
7 Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a darawsant holl wlad yr Amaleciaid, a’r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson-tamar.
8 Allan hefyd yr aeth brenhin Sodom, a brenhin Gomorrah, a