1:23 A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel; (ac enw y ddinas o’r blaen oedd Lus.)
1:24 A’r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas; ac a ddywedasanf wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i’r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi.
1:25 A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i’r ddinas, hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a’i holl deulu.
1:26 A’r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid; ac a adeiladodd ddinas, ac a alwodd ei henw Lus: dyma ei henw hi hyd y dydd hwn.
1:27 Ond ni oresgynnodd Manasse Beth-sean na’i threfydd, na Thaanach na’i threfydd, na thrigolion Dor na’i threfydd, na thrigolion Ibleam na’i threfydd, na thrigolion Megido na’i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.
1:28 Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr.
1:29 Effraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Geser; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Geser.
1:30 A Sabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron, na phreswylwyr Nahalol; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt, ac a aethant dan dreth.
1:31 Ac Aser ni yrrodd ymaith drigol¬ion Acco, na thrigolion Sidon, nac Alab, nac Achsib, na Helba, nac Affic, na Rehob:
1:32 Ond Aser a drigodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad; canys ni yrasant hwynt allan.
1:33 A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth-semes, na thrigolion Beth-anath; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad: er hynny preswylwyr Beth-semes a Beth-anath oedd dan dreth iddynt.
1:34 A’r Amoriaid a yrasant feibion Dan i’r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i’r dyffryn.
1:35 A’r Amoriaid a fynnai breswylio ym mynydd Heres yn Ajalon, ac yn Saalbim: eto llaw tŷ Joseff a orthrechodd, a’r Amoriaid fuant dan dreth iddynt.
1:36 A therfyn yr Amoriaid oedd o riw Acrabbim, o’r graig, ac uchod.
PENNOD 2
2:1 Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac arweiniais chwi i’r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth.
2:2 Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon; ond bwriwch i lawr eu hallorau: eto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn?
2:3 Am hynny y dywedais, Ni yrraf hwynt allan o’ch blaen chwi: eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau, a’u duwiau fydd yn fagl i chwi.
2:4 A phan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth holl feibion Israel, yna y bobl a ddyrehafasant eu llef, ac a wylasant.
2:5 Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim: ac yna yr aberthasant i’r AR¬GLWYDD.
2:6 A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i’w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad.
2:7 A’r bobl a wasanaethasant yr AR¬GLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaethai efe er Israel.
2:8 A bu farw Josua mab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn fab dengmlwydd a chant.
2:9 A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-heres, ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.
2:10 A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr ARGLWYDD, na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.
2:11 A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim:
2:12 Ac a wrthodasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o’u ham-