A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.
2 A mi a wnaf fy nghyfammod rhyngof a thi, ac a’th amlhâf di yn aml iawn.
3 Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef, gan ddywedyd,
4 Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfammod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd.
5 A’th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham, canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum.
6 A mi a’th wnaf yn ffrwythlawn iawn, ac a wnaf genhedloedd o honot ti, a brenhinoedd a ddaw allan o honot ti.
7 Cadarnhâf hefyd fy nghyfammod rhyngof a thi, ac â’th had ar dy ol di, trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i’th had ar dy ol di.
8 A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ol di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragywyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.
9 ¶ A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfammod i, ti a’th had ar dy ol, trwy eu hoesoedd.
10 Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ol di: enwaedir pob gwrryw o honoch chwi.
11 A chwi a enwaedwch gnawd eich dïenwaediad: a bydd yn arwydd cyfammod rhyngof fi a chwithau.
12 Pob gwrryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenhedlaethau; yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dïeithr, yr hwn nid yw o’th had di.
13 Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragywyddol.
14 A’r gwrryw dïenwaededig, yr hwn ni enwaeder cnawd ei ddïenwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfammod i.
15 ¶ Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi.
16 Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab o honi: ïe bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd o honi hi.
17 Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab càn mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain?
18 Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di!
19 A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddïau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhâf fy nghyfammod âg ef yn gyfammod tragywyddol, ac â’i had ar ei ol ef.
20 Am Ismael hefyd y’th wrandewais: wele, mi a’i bendithiais ef, a mi a’i ffrwythlonaf ef, ac a’i llïosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
21 Eithr fy nghyfammod a gadarnhâf âg Isaac, yr hwn a ymddŵg Sarah i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.
22 Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a Duw a aeth i fynu oddi wrth Abraham.
23 ¶ Ac Abraham a gymmerodd Ismael ei fab, a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian, pob gwrryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dïenwaediad hwynt o fewn corph y dydd hwnnw, fel y llefarasai Duw wrtho ef.
24 Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddïenwaediad ef.
25 Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddïenwaediad ef.
26 O fewn corph y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab.
27 A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid âg arian gan neb dïeithr, a enwaedwyd gyd âg ef.
Pennod XVIII.
1 Abraham yn derbyn tri angel i’w dŷ. 9 Sarah a geryddir am chwerthin rhyngddi a hi ei hun o ran yr addewid ddïeithr. 17 Duw yn rhybuddio Abraham am ddinystr Sodom. 23 Ac Abraham yn eiriol trostynt.