GLWYDD; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein Duw ni.
2:3 Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr ARGLWYDD, a’i amcanion ef a gyflawnir.
2:4 Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant a nerth.
2:5 Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a’r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgau yr aml ei meibion.
2:6 Yr ARGLWYDD sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fyny.
2:7 Yr ARGLWYDD sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu.
2:8 Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau, i’w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr ARGLWYDD colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt.
2:9 Traed ei saint a geidw efe, a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr.
2:10 Y rhai a ymrysonant â’r ARGLWYDD, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr ARGLWYDD a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i’w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog.
2:11 Ac Elcana a aeth i Rama i’w dŷ; a’r bachgen a fu weinidog i’r ARGLWYDD gerbron Eli yr offeiriad.
2:12 A meibion Eli oedd feibion Belial: nid adwaenent yr ARGLWYDD.
2:13 A defod yr offeiriad gyda’r bobl oedd, pan offrymai neb aberth, gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi, a chigwain dridant yn ei law;
2:14 Ac a’i trawai hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair: yr hyn oll a gyfodai y gigwain, a gymerai yr offeiriad iddo. Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno.
2:15 Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster, y deuai gwas yr offeiriad hefyd, ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu, Dyro gig i’w rostio i’r offeiriad: canys ni fyn efe gennyt gig berw, ond amrwd.
2:16 Ac os gŵr a ddywedai wrtho, Gan losgi llosgant yn awr y braster, ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon: yntau a ddywedai wrtho, Nage; yn awr y rhoddi ef: ac onid e, mi a’i cymeraf trwy gryfder.
2:17 Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr ARGLWYDD: canys ffieiddiodd dynion offrwm yr ARGLWYDD.
2:18 A Samuel oedd yn gweini o flaen yr ARGLWYDD, yn fachgen, wedi ymwregysu ag effod liain.
2:19 A’i fam a wnâi iddo fantell fechan, ac a’i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddelai hi i fyny gyda’i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol.
2:20 Ac Eli a fendithiodd Elcana a’i wraig, ac a ddywedodd, Rhodded yr ARGLWYDD i ti had o’r wraig hon, am y dymuniad a ddymunodd gan yr AR¬GLWYDD. A hwy a aethant i’w mangre eu hun.
2:21 A’r ARGLWYDD a ymwelodd â Hanna; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a’r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr ARGLWYDD.
2:22 Ac Eli oedd hen iawn; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel, a’r modd y gorweddent gyda’r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
2:23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Paham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi.
2:24 Nage, fy meibion: canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr ARGLWYDD droseddu.
2:25 Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion a’i barnant ef: ond os yn erbyn yr ARGLWYDD y pecha gŵr, pwy a eiriol drosto ef? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad, am y mynnai yr ARGLWYDD eu lladd hwynt.
2:26 A’r bachgen Samuel a gynyddodd, ac a aeth yn dda gan DDUW, a dynion hefyd.
2:27 A daeth gŵr i DDUW at Eli, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad, pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo?
2:28 Gan ei ddewis ef hefyd o holl