lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymu ar fy allor, i losgi arogl-darth, i wisgo effod ger fy mron? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meib¬ion Israel?
2:29 Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?
2:30 Am hynny medd ARGLWYDD DDUW Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr ARGLWYDD, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir.
2:31 Wele y dyddiau yn dyfod, pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dad,; fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di.
2:32 A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa, yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel: ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth.
2:33 A’r gŵr o’r eiddot, yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor, fydd i beri i’th lygaid ballu, ac i beri i’th galon ofidio: a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr.
2:34 A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hoffni a Phinees: Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau.
2:35 A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a’m meddwl; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr, ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd.
2:36 A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara, a dywedyd, Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth, i gael bwyta tamaid o fara.
PENNOD 3
3:1 AR bachgen Samuel a wasanaethodd yr ARGLWYDD gerbron Eli. A gair yr ARGLWYDD oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur.
3:2 A’r pryd hwnnw, pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi i’w lygaid ef ddechrau tywyllu, fel na allai weled;
3:3 A chyn i lamp Dew ddiffoddi yn nheml yr ARGLWYDD, lle yr oedd arch Duw, a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu:
3:4 Yna y galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel. Dywedodd yntau, Wele fi.
3:5 Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywed¬odd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Ni elwais i; dychwel a gorwedd. Ac efe a aeth ac a orweddodd.
3:6 A’r ARGLWYDD a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel a gorwedd.
3:7 Ac nid adwaenai Samuel eto yr ARGLWYDD, ac nid eglurasid iddo ef air yr ARGLWYDD eto.
3:8 A’r ARGLWYDD a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywed¬odd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr ARGLWYDD a alwasai ar y bachgen.
3:9 Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, ARGLWYDD; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le.
3:10 A daeth yr ARGLWYDD, ac a safodd, ac a alwodd megis o’r blaen, Samuel, Samuel. A dywedodd Samuel, Llefara; canys y mae dy was yn clywed.
3:11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, fe a ferwina ei ddwy glust ef.
3:12. Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechrau a diweddu ar unwaith.
3:13 Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt.
3:14 Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli, na wneir iawn am anwiredd tŷc Eli ag aberth, nac a bwyd-offrwm byth.
3:15 A Samuel a gysgodd hyd y bore, ac a agorodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD; a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledig¬aeth i Eli.