Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/29

Gwirwyd y dudalen hon

Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain.

29 Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef etto, ac a ddywedodd, Ond odid cair yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain.

30 Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Cair yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.

31 Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid cair yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain.

32 Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid cair yno ddeg. Yntau a ddywedodd nis difethaf er mwyn deg.

33 A’r Arglwydd a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan âg Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i’w le ei hun.

PENNOD XIX.

1 Lot yn derbyn angelion i’w dŷ. 4 Taro y Sodomiaid annuwiol â dallineb. 12 Danfon Lot i’r mynydd er mwyn ei ddïogelwch. 18 Yntau yn cael cennad i fyned i Soar. 24 Dinystrio Sodom a Gomorrah. 26 Troi gwraig Lot yn golofn halen. 30 Lot yn trigo mewn ogof. 31 Godinebus fonedd Moab ac Ammon.

A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd a’i wyneb tu a’r ddaear;

2 Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, attolwg, i dŷ eich gwas; lletŷwch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i’ch taith. A hwy a ddywedasant, Nag ê; o herwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.

3 Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troisant atto, ac y daethant i’w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwyttasant.

4 ¶ Eithr cyn gorwedd o honynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuangc, sef yr holl bobl o bob cwrr;

5 Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan attom ni, fel yr adnabyddom hwynt.

6 Yna y daeth Lot attynt hwy allan i’r drws, ac a gauodd y ddor ar ei ol;

7 Ac a ddywedodd, Attolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg.

8 Wele yn awr, y mae dwy ferched gennyf fi, y rhai nid adnabuant wr; dygaf hwynt allan attoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i’r gwŷr hyn; o herwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i.

9 A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gwr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri y ddor.

10 A’r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i’r tŷ, ac a gauasant y ddor.

11 Tarawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio y drws.

12 ¶ A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb etto? mab y’nghyfraith, a’th feibion, a’th ferched, a’r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o’r fangre hon.

13 Oblegid ni a ddinystriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr ger bron yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’n hanfonodd ni i’w ddinystrio ef.

14 Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn prïodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o’r fan yma; o herwydd y mae yr Arglwydd yn difetha y ddinas hon: ac y’ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.

15 ¶ Ac ar godiad y wawr, yr angelion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer dy wraig, a’th ddwy ferch, y rhai sydd i’w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas.

16 Yntau a oedd hwyrfrydig, a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferched; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef; ac a’i dygas-