Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/293

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn Ciriath-jearim, y bu ddyddiau lawer; nid amgen nag ugain mlynedd: a holl dŷ Israel a alarasant ar ôl yr ARGLWYDD.

7:3 A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch; chwi at yr ARGLWYDD â’ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau dieithr o’ch mysg, ac Astaroth, a pharatowch eich calon at yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a’ch gwared chwi o law y Philistiaid.

7:4 Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth, a’r AR¬GLWYDD yn unig a wasanaethasant.

7:5 A dywedodd Samuel, Cesglwch holl Israel i Mispa, a mi a weddïaf drosoch chwi at yr ARGLWYDD.

7:6 A hwy a ymgasglasant i Mispa, ac a dynasant ddwfr, ac a’i tywalltasant gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD. A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa.

7:7 A phan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasglu i Mispa, arglwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny yn erbyn Israel: a meibion Israel a glywsant, ac a ofnasant rhag y Philistiaid.

7:8 A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel, Na thaw di â gweiddi drosom at yr ARGLWYDD ein Duw, ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid.

7:9 A Samuel a gymerth laethoen, ac a’i hoffrymodd ef i gyd yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD: a Samuel a waeddodd ar yr ARGLWYDD dros Israel; a’r ARGLWYDD a’i gwrandawodd ef.

7:10 A phan oedd Samuel yn offrymu’r poethoffrwm, y Philistiaid a nesasant i ryfel yn erbyn Israel: a’r ARGLWYDD a daranodd â tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw, ac a’u drylliodd hwynt, a lladdwyd hwynt o flaen Israel.

7:11 A gwŷr Israel a aethant o Mispa, ac a erlidiasant y Philistiaid, ac a’u trawsant hyd oni ddaethant dan Bethcar.

7:12 A chymerodd Samuel faen, ac a’i gosododd rhwng Mispa a Sen, ac a alwodd ei enw ef Ebeneser; ac a ddywedodd, Hyd yma y cynorthwyodd yr ARGLWYDD nyni.

7:13 Felly y darostyngwyd y Philistiaid, ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel: a llaw yr ARGLWYDD a fu yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel.

7:14 A’r dinasoedd, y rhai a ddygasai y Philistiaid oddi ar Israel, a roddwyd adref i Israel, o Ecron hyd Gath; ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid: ac yr oedd heddwch rhwng Israel a’r Amoriaid.

7:15 A Samuel a farnodd Israel holl ddyddiau ei fywyd.

7:16 Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddyn oddi amgylch i Bethel, a Gilgal, a Mispa, ac a farnodd Israel yn yr holl leoedd hynny.

7:17 A’i ddychwelfa ydoedd i Rama; canys yno yr oedd ei dŷ ef: yno hefyd y barnai efe Israel, ac yno yr adeiladodd efe allor i’r ARGLWYDD.

PENNOD 8

º1 AC wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel.

º2 Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel; ac enw yr ail, Abeia: y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba.

º3 A’i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn.

º4 Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant, ac a ddaethant at Samuel i Rama,

º5 Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd.

º6 A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr ARGLWYDD.

º7 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt.

º8 Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaeihant, o’r dydd y dygais hwynt o’r Aifft hyd y dydd hwn, ac fel