Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/294

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr; felly y gwnant hwy hefyd i ti.

º9 Yn awr gan hynny gwrando ar en llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt.

º10 A Samuel a fynegodd holl eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo.

º11 Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef:

º12 Ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei ar, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau.

º13 A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau.

º14 Ac efe a gymer eich meysydd, a’ch gwinllannoedd, a’ch olewlannoedd gorau, ac a’u dyry i"w weision.

º15 Eich hadau hefyd a’ch gwinllan¬noedd a ddegyma efe, ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision.

º16 Eich gweision hefyd, a’ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a’ch asynnod, a gymer efe, ac a’u gesyd i’w waith.

º17 Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef.

º18 A’r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr ARGLWYDD arnoch yn y dydd hwnnw.


º19 Er hynny y bobl a wnhodasant wrando ar lais Samuel; ac a ddywed" asant, Nage, eithr brenin fydd arnom ni:

º20 Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd; a’n brenin a’n barna ni, efe a â allan hefyd o’n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni.

º21 A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac a’u hadroddodd hwynt lle y clybu yr ARGLWYDD.

º22 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar eu llais hwynt, a gosod frenin arnynt. A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, Ewch bob un i’w ddinas ei hun.

PENNOD 9

º1 A yr oedd gŵr o Benjamin, a’i enw Cis, mab Abiel, mab Seror, mab Bechorath, mab Affeia, mab i ŵr o Jemini, yn gadarn o nerth.

º2 Ac iddo ef yr oedd mab, a’i enw Saul, yn ŵr ieuanc, dewisol a glân: as nid oedd neb o feibion Israel lanach nag ef: o’i ysgwydd i fyny yr oedd yn uwch na’r holl bobl.

º3 Ac asynnod Cis, tad Saul, a gyfrgollasant: a dywedodd Cis wrth Saul ei fab, Cymer yn awr un o’r llanciau gyda thi, a chyfod, dos, cais yr asynnod.

º4 Ac efe a aeth trwy fynydd Effrairn, ac a dramwyodd trwy wlad Salisa, ac nis cawsant hwynt: yna y tramwyasant trwy wlad Salim, ac nis cawsant hwynt: ac efe a aeth trwy wlad Jemini, ond nis cawsant hwynt.

º5 Pan ddaethant i wlad Suff, y dywed¬odd Saul wrth ei lane oedd gydag ef, Tyred, a dychwelwn; rhag i’m tad beidio a’r asynnod, a gofalu amdanom ni.

º6 Dywedodd yntau wrtho ef, Wele, yn awr y mae yn y ddinas hon ŵr i DDUW, a’r gŵr sydd anrhydeddus; yr hyn oll a ddywedo efe, gan ddyfod a ddaw: awn yno yn awr; nid hwyrach y mynega efe i ni y ffordd y mae i ni fyned iddi.

º7 Yna y dywedodd Saul wrth ei lane, Wele, od awn ni, pa beth a ddygwn ni i’r gwr? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni, a gwobr arall nid oes i’w ddwyn i ŵr Duw: beth sydd gennym?

º8 A’r llanc a atebodd eilwaith i Saul, ac a ddywedodd, Wele, cafwyd gyda mi bedwaredd ran sicl o arian: mi a roddaf hynny i ŵr Duw, er mynegi i ni ein ffordd.

º9 (Gynt yn Israel, fel hyn y dywedai gŵr wrth fyned i ymgynghori a Duw; Deuwch, ac awn hyd at y gweledydd: canys y Proffwyd heddiw, a elwid gynt yn Weledydd.)

º10 Yna y dywedodd Saul wrth ei lane, Da y dywedi; tyred, awn.