Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/323

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

AIL LYFR SAMUEL; YR HWN A ELWIR HEFYD, AIL LYFR Y BRENHINOEDD.

PENNOD 1

1:1 Ac ar ôl marwolaeth Saul, pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid, wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag;

1:2 Yna y trydydd dydd, wele ŵr yn dyfod o’r gwersyll oddi wrth Saul, a’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben: a phan ddaeth efe at Dafydd, efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymodd.

1:3 A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti? Yntau a ddywedodd wrtho, O wersyll Israel y dihengais i.

1:4 A dywedodd Dafydd wrtho ef, Pa fodd y bu? mynega, atolwg, i mi. Yntau a ddywedodd, Y bobl a ffodd o’r rhyfel, a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw.

1:5 A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo. Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab?

1:6 A’r llanc, yr hwn oedd yn mynegi iddo, a ddywedodd, Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa; ac wele, Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon: wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn erlid ar ei ôl ef.

1:7 Ac efe a edrychodd o’i ôl, ac a’m canfu i, ac a alwodd arnaf fi. Minnau a ddywedais, Wele fi.

1:8 Dywedodd yntau wrthyf, Pwy wyt ti? Minnau a ddywedais wrtho, Amaleciad ydwyf fi.

1:9 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Saf, atolwg, arnaf, a lladd fi: canys cyfyngder a ddaeth arnaf, oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto.

1:10 Felly mi a sefais arno ef, ac a’i lleddais ef, canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo: a chymerais y goron oedd ar ei ben ef, a’r freichled oedd am ei fraich ef, ac a’u dygais hwynt yma at fy arglwydd.

1:11 Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd hwynt; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef.

1:12 Galarasant hefyd, ac wylasant, ac ymprydiasant hyd yr hwyr, am Saul ac am Jonathan ei fab, ac am bobl yr AR¬GLWYDD, ac am dŷ Israel; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf.

1:13 A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi hyn iddo, O ba le yr hanwyt ti? Yntau a ddywedodd, Mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyf fi.

1:14 A dywedodd Dafydd wrtho, Pa fodd nad ofnaist ti estyn dy law i ddifetha eneiniog yr ARGLWYDD?

1:15 A Dafydd a alwodd ar un o’r gweision, ac a ddywedodd, Nesa, rhuthra iddo ef. Ac efe a’i trawodd ef, fel y bu efe farw.

1:16 A dywedodd Dafydd wrtho ef, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun: canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, Myfi a leddais eneiniog yr ARGLWYDD.

1:17 A Dafydd a alarnadodd yr alarnad hon am Saul ac am Jonathan ei fab:

1:18 (Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa: wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser.)

1:19 O ardderchowgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!

1:20 Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig.

1:21 O fynyddoedd Gilboa, na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw, na meysydd o offrymau! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe buasai heb ei eneinio ag olew.

1:22 Oddi wrth waed y lladdedigion, oddi wrth fraster y cedyrn, ni throdd bŵa Jonathan yn ôl, a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag.

1:23 Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd, ac yn eu marwol¬aeth ni wahanwyd hwynt: