º16 A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o’r tu hwnt i’r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o’u blaen.
º17 A phan fynegwyd i Dafydd hynny, fife a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a’r Synaid a ymfyddinasant yn erbyn Da¬fydd, ac a ymladdasant ag ef.
º18 A’r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o’r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno.
º19 A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a’u gwasanaethasant hwynt. A’r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meib¬ion Ammon mwyach.
PENNOD 11 º1 A wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd Joab a’i weision gydag ef, a holl Israel; a hwy a ddistrywiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerwsalem.
º2 A bu ar brynhawngwaith gyfodi o Dafydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen ty y brenin: ac oddi ar y nen efe a ganfu, wraig yn ymolchi; a’r wraig oedd deg iawn yr olwg.
º3 A Dafydd a anfonodd ac a ymofyn-, nodd am y wraig: ac un a ddywedodd," Onid hon yw Bathseba merch Eli’am, gwraig Ureias yr Hethiad?
º4 A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac efe a orweddodd gyda hi: ac yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid: a hi a ddychwelodd i’w thŷ ei hun.
º5 A’r wraig a feichiogodd, ac a anfon¬odd ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddy¬wedodd, Yr ydwyf fi yn feichiog.
º6 A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd.
º7 A phan ddaeth Ureias ato ef, Dafydd a ymofynnodd âm lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel.
º8 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, DOS i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dy y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef.
º9 Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws ty y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun.
º10 Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dy ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun?
º11 A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a Joab fy arglwydd, a gweision fy arglwydd, sydd yn gwersyllu ar hyd wyneb y maes: a af fi gan hynny i’m ty fy hun, i fwyta, ac i yfed, ac i orwedd gyda’m gwraig? fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn.
º12 A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Aros yma eto heddiw, ac yfory y’th ollyngaf di. Ac Ureias a arhosodd yn Jerwsalem y dwthwn hwnnw a thrannoeth.
º13 A Dafydd a’i galwodd ef, i fwyta ac i yfed ger ei fron ef, ac a’i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dy ei hun.
º14 A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias.
º15 Ac efe a ysgrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, Gosodwch Ureias ar gyfer wyneb y rhyfelwyr glewaf; a dychwelwch oddi ar ei ôl ef, fel y trawer ef, ac y byddo marw.
º16 A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osododd Ureias yn y lle y gwyddai efe fod gwŷr nerthol ynddo.
º17 A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant a Joab: a syrthiodd rhai o’r bobl o weision Dafydd; ac Ureias yr Hethiad a fu farw hefyd.
º18 Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd holl hanes y rhyfel: