LLYFR CYNTAF Y BRENHINOEDD YR HWN A ELWIR HEFYD TRYDYDD LLYFR Y BRENHINOEDD
PENNOD 1
1:1 A’r brenin Dafydd oedd hen, ac a aethai mewn oedran; er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad, eto ni chynhesai efe.
1:2 Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho, Ceisier i’m harglwydd frenin lances o forwyn; a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo, a gorwedded yn dy fynwes, fel y gwresogo fy arglwydd frenin.
1:3 A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel, ac a gawsant Abisag y Sunamees, ac a’i dygasant hi at y brenin.
1:4 A’r llances oedd deg iawn, ac oedd yn ymgeleddu’r brenin, ac yn ei wasanaethu ef: ond ni bu i’r brenin a wnaeth â hi.
1:5 Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd, gan ddywedyd, Myfi a fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen.
1:6 A’i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost fel hyn? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd; ac efe a anesid wedi Absalom.
1:7 Ac o’i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia, ac Ahiathar yr offeiriad: a hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia.
1:8 Ond Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a Nathan y proffwyd, a Simei, a Rei, a’r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd, nid oeddynt gydag Adoneia.
1:9 Ac Adoneia a laddodd ddefaid, a gwartheg, a phasgedigion, wrth faen Soheleth, yr hwn sydd wrth En-rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Jwda gweision y brenin.
1:10 Ond Nathan y proffwyd, a Benaia, a’r gwŷr cedyrn, a Solomon ei frawd, ni wahoddodd efe.
1:11 Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon, gan ddy¬wedyd, Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu, a’n harglwydd Dafydd heb wybod hynny?
1:12 Tyred gan hynny yn awr, atolwg, rhoddaf i ti gyngor, fel yr achubych dy einioes dy hun, ac einioes Solomon dy fab,
1:13 Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti, fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu?
1:14 Wele, tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin, minnau a ddeuaf i mewn ar dy ôl di, ac a sicrhaf dy eiriau di.
1:15 A Bathseba a aeth i mewn at y brenin, i’r ystafell. A’r brenin oedd hen iawn; ac Abisag y Sunamees oedd yn gwasanaethu’r brenin.
1:16 A Bathseba a ostyngodd ei phen, ac a ymgrymodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Beth a fynni di?
1:17 Hithau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd, ti a dyngaist i’r ARGLWYDD dy DDUW wrth dy wasanaethyddes, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i:
1:18 Ac yn awr, wele, Adoneia sydd frenin; ac yr awr hon, fy arglwydd frenin, nis gwyddost ti hyn.
1:19 Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y filwriaeth: ond dy was Solomon ni wahoddodd efe.
1:20 Tithau, fy arglwydd frenhin, y