mae llygaid holl Israel arnat ti, am fynegi iddynt pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef.
1:21 Os amgen, pan orweddo fy ar¬glwydd frenin gyda’i dadau, yna y cyfrifir fi a’m mab Solomon yn bechoduriaid.
1:22 Ac wele, tra yr oedd hi eto yn ymddiddan â’r brenin, y daeth Nathan y proffwyd hefyd i mewn.
1:23 A hwy a fynegasant i’r brenin, gan ddywedyd, Wele Nathan y proffwyd. Ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin, ac a ymgrymodd i’r brenin â’i wyneb hyd lawr.
1:24 A dywedodd Nathan, Fy arglwydd frenin, a ddywedaist ti, Adoneia a deyrnasa ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc?
1:25 Canys efe a aeth i waered heddiw, ac a laddodd ychen, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y filwriaeth, ac Abiathar yr offeiriad; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o’i flaen ef, ac y maent yn dywedyd, Bydded fyw y brenin Adoneia.
1:26 Ond myfi dy was, a Sadoc yr offeir¬iad, a Benaia mab Jehoiada, a’th was Solomon, ni wahoddodd efe.
1:27 Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn, heb ddangos ohonot i’th was, pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef?
1:28 A’r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd, Gelwch Bathseba ataf fi. A. hi a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd gerbron y brenin.
1:29 A’r brenin a dyngodd, ac a ddywed¬odd, Fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder,
1:30 Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i ARGLWYDD DDUW Israel, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorsedd¬fainc i yn fy lle i, felly y gwnaf y dydd hwn.
1:31 Yna Bathseba a ostyngodd ei phen â’i hwyneb i lawr, ac a ymgrymodd i’r brenin, ac a ddywedodd, Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.
1:32 A’r brenin Dafydd a ddywedodd, Gelwch ataf fi Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada. A hwy a ddaethant o flaen y brenin.
1:33 A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi a pherwch i Solomon fy mab farchogaeth ar fy mules fy hun, a dygwch ef i waered i Gihon.
1:34 Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar Israel: ac utgenwch mewn utgorn, dywedwch, Bydded fyw y brenin Solo¬mon.
1:35 Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef, a deued efe i fyny, ac eistedded ar fy ngorseddfa i, ac efe a deyrnasa yn fy lle i: canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel ac ar Jwda.
1:36 A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin, ac a ddywedodd. Amen: yr un modd y dywedo ARGLWYDD DDUW fy arglwydd frenin.
1:37 Megis y bu yr ARGLWYDD gyda’m harglwydd y brenin, felly bydded gyda Solomon, a gwnaed yn fwy ei orsedd¬fainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y brenin Dafydd.
1:38 Felly Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Felethiaid, a aethant i waered, ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon.
1:39 A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o’r babell, ac a eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a’r holl bobl a ddywedasant, Bydded fyw y brenin Solomon.
1:40 A’r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.
1:41 A chlybu Adoneia, a’i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef, pan ddarfuasai iddynt fwyta. Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn; ac a ddywedodd, Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol?
1:42 Ac efe eto yn llefaru, wele, daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad. A dywedodd Adoneia, Tyred i mewn: canys gŵr grymus ydwyt ti, a daioni a fynegi di.
1:43 A Jonathan a atebodd ac a ddy¬wedodd wrth Adoneia, Yn ddiau