ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin.
1:44 A’r brenin a anfonodd gydag ef Solomon ei fab, gan ddywedyd, Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin.
1:45 A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a’i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen; a’r ddinas a derfysgodd. Dyna’r twrf a glywsoch chwi.
1:46 Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth.
1:47 A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd, gan ddywedyd, Dy DDUW a wnelo enw Solomon yn well na’th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na’th orseddfainc di. A’r brenin a ymgrymodd ar y gwely.
1:48 Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a’m llygaid innau yn gweled hynny.
1:49 A’r holl wahoddedigion, y rhai oedd gydag Adoneia, a ddychrynasant, ac a gyfodasant, ac a aethant bob un ei ffordd.
1:50 Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon; ac a gyfododd, ac a aeth ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.
1:51 A mynegwyd i Solomon, gan ddywedyd, Wele, y mae Adoneia yn ofni’r brenin Solomon: canys wele, efe a ymafl¬ odd yng nghyrn yr allor, gan ddywedyd, Tynged y brenin Solomon i mi heddiw, na ladd efe ei was â’r cleddyf.
1:52 A dywedodd Solomon, Os bydd efe yn ŵr da, ni syrth un o’i wallt ef i lawr; ond os ceir drygioni ynddo ef, efe a fydd marw.
1:53 A’r brenin Solomon a anfonodd, a hwy a’i dygasant ef oddi wrth yr allor. Ac efe a ddaeth, ac a ymgrymodd i’r brenin Solomon. A dywedodd Solomon wrtho, Dos i’th dŷ.
PENNOD 2
2:1 Yna dyddiau Dafydd a nesasant i farw; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab, gan ddywedyd,
2:2 Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr;
2:3 A chadw gadwraeth yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau, a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech:
2:4 Fel y cyflawno yr ARGLWYDD ei air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â'u holl galon, ac â'u holl enaid, ni thorrir (eb efe) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel.
2:5 Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi, a'r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel, i Abner mab Ner, ac i Amasa mab Jether, y rhai a laddodd efe, ac a ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei esgidiau oedd am ei draed.
2:6 Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na ad i'w benllwydni ef ddisgyn i'r bedd mewn heddwch.
2:7 Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd, a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di: canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi rhag Absalom dy frawd di.
2:8 Wele hefyd Simei mab Gera, mab Jemini, o Bahurim, gyda thi, yr hwn a'm melltithiodd i â melltith dost, y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i waered i'r Iorddonen i gyfarfod â mi; a mi a dyngais i'r ARGLWYDD wrtho ef, gan ddywedyd, Ni'th laddaf â'r cleddyf.
2:9 Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth: canys gŵr doeth ydwyt ti, a gwyddost beth a wnei iddo: dwg dithau ei benwynni ef i waered i’r bedd mewn gwaed.
2:10 Felly Dafydd a hunodd gyd