Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/357

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a’u lladdodd hwynt â’r cleddyf , a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.

2:33 A’u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei had ef yn dragywydd: ond i Dafydd, ac i’w had, ac i’w dŷ, ac i’w orseddfainc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr ARGLWYDD.

2:34 Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny, ac a ruthrodd arno, ac a’i lladdodd. Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch.

2:35 A’r brenin a osododd Benaia mab Jehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth. A’r brenin a osododd Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.

2:36 A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho, Adeilada i ti dŷ yn Jerwsalem, ac aros yno, ac na ddos allan oddi yno nac yma na thraw.

2:37 Canys bydd, y dydd yr elych allan, ac yr elych dros afon Cidron, gan wybod y cei di wybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun.

2:38 A dywedodd Simei wrth y brenin, Da yw y gair: fel y dywedodd fy arglwydd frenin, felly y gwna dy was. A Simei a drigodd yn Jerwsalem ddyddiau lawer.

2:39 Eithr ymhen tair blynedd y ffodd dau was i Simei at Achis, mab Maacha, brenin Gath. A mynegwyd i Simei, gan ddywedyd, Wele dy weision di yn Gath.

2:40 A Simei a gyfododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a aeth i Gath at Achis, i geisio ei weision: ie, Simei a aeth, ac a gyrchodd ei weision o Gath.

2:41 A mynegwyd i Solomon, fyned o Simei o Jerwsalem i Gath, a’i ddychwelyd ef.

2:42 A’r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho. Oni pherais i ti dyngu i’r ARGLWYDD, ac oni thystiolaethais wrthyt, gan ddywedyd, Yn y dydd yr elych allan, ac yr elych nac yma nac acw, gan wybod gwybydd y lleddir di yn farw? a thi a ddywedaist wrthyf. Da yw y gair a glywais.

2:43 Paham gan hynny na chedwaist lw yr ARGLWYDD, a’r gorchymyn a orchmynnais i ti,?

2:44 A dywedodd y brenin wrth Simei, Ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon, yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad: yr ARGLWYDD am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun;

2:45 A bendigedig fydd y brenin Solo¬mon, a gorseddfainc Dafydd a sicrheir o flaen yr ARGLWYDD yn dragywydd.

2:46 Felly y gorchmynnodd y brenin i Benaia mab Jehoiada; ac efe a aeth allan, ac a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw. A’r frenhiniaeth a sicrhawyd yn llaw Solomon.

PENNOD III.

3:1 A Solomon a ymgyfathrachodd â Pharo brenin yr Aifft, ac a briododd ferch Pharo, ac a’i dug hi i ddinas Dafydd, nes darfod iddo adeiladu ei dŷ ei hun, a thŷ yr ARGLWYDD, a mur Jerw¬salem oddi amgylch.

3:2 Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd, oherwydd nad adeiladasid tŷ i enw yr ARGLWYDD, hyd y dyddiau hynny.

3:3 A Solomon a garodd yr ARGLWYDD, gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad: eto mewn uchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu ac yn arogl-darthu.

3:4 A’r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno: canys honno oedd uchelfa fawr. Mil o boethoffrymau a offrymodd Solo¬mon ar yr allor honno.

3:5 Yn Gibeon yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a dywedodd Duw, Gofyn beth a roddaf i ti.

3:6 A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr honi a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw.

3:7 Ac yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn.