gynodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhâf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd.
47 A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milcah iddo ef. Yna y gosodais y clust-dlws wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylaw hi:
48 Ac a ymgrymmais, ac a addolais yr Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymmeryd merch brawd fy meistr i’w fab ef.
49 Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr, mynegwch i mi: ac onid ê, mynegwch i mi; fel y tröwyf ar y llaw ddehau, neu ar y llaw aswy.
50 Yna yr attebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da.
51 Wele Rebeccah o’th flaen; cymmer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd.
52 A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymmodd hyd lawr i’r Arglwydd.
53 A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd, ac a’u rhoddodd i Rebeccah: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i’w brawd hi, ac i’w mam.
54 A hwy a fwyttasant ac a yfasant, efe a’r dynion oedd gyd âg ef, ac a lettyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr.
55 Yna y dywedodd ei brawd a’i mam, Triged y llangces gyd â ni ddeng niwrnod o’r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned.
56 Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr.
57 Yna y dywedasant, Galwn ar y llangces, a gofynnwn iddi hi.
58 A hwy a alwasant ar Rebeccah, a dywedasant wrthi, A âi di gyd â’r gwr hwn? A hi a ddywedodd, Af.
59 A hwy a ollyngasant Rebeccah eu chwaer, a’i mamaeth, a gwas Abraham, a’i ddynion;
60 Ac a fendithiasant Rebeccah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
61 ¶ Yna y cododd Rebeccah, a’i llangcesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ol y gwr; a’r gwas a gymmerodd Rebeccah, ac a aeth ymaith.
62 Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai-roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y dehau.
63 Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod.
64 Rebeccah hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel.
65 Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gwr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? A’r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymmerth orchudd, ac a ymwisgodd.
66 A’r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe.
67 Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymmerth Rebeccah, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a’i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ol ei fam.
Pennod XXV.
1 Plant Abraham o Ceturah. 5 Rhannu ei ddâ ef. 7 Ei oedran a’i farwolaeth. 9 Ei gladdedigaeth. 12 Cenhedlaethau Ismael. 17 Ei oedran a’i farwolaeth. 21 Isaac yn gweddïo dros Rebeccah, yr hon oedd yn ammhlantadwy. 22 Y plant yn ymwthio yn ei chroth hi. 24 Genedigaeth Esau a Jacob. 27 Y rhagor oedd rhyngddynt hwy. 29 Esau yn gwerthu braint ei enedigaeth.
Ac Abraham a gymmerodd eilwaith wraig, a’i henw Ceturah.
2 A hi a esgorodd iddo ef Zimran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Suah.
3 A Jocsan genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lëummim.
4 A meibion Midian oedd Ephah, ac Epher, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaah: yr holl rai hyn oedd feibion Ceturah.
5 ¶ Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac.
6 Ac i feibion gordderch-wragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tu a’r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe etto yn fyw.