5:1 Hiram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Solomon; canys clybu eneinio ohonynt hwy ef yn frenin yn lle ei dad: canys hoff oedd gan Hiram Dafydd bob amser.
5:2 A Solomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd,
5:3 Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu ty` i enw yr ARGLWYDD ei DDUW, gan y rhyfeloedd oedd o’i amgylch ef, nes rhoddi o’r ARGLWYDD hwynt dan wadnau ei draed ef.
5:4 Eithr yn awr yr ARGLWYDD fy Nuw a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol.
5:5 Ac wele fi a’m bryd ar adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy Nuw; megis y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd fy nhad, gan ddywedyd, Dy fab, yr hwn a osodaf fi yn dy le di ar dy orseddfainc di, efe a adeilada dŷ i’m henw i.
5:6 Yn awr, gan hynny, gorchymyn dorri ohonynt i mi gedrwydd o Libanus; a’m gweision i a fyddant gyda’th weision di: a rhoddaf atat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddywedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymynu coed megis y Sidoniaid.
5:7 A bu, pan glybu Hiram eiriau Solomon, lawenychu ohono ef yn ddirfawr, a dywedyd, Bendigedig yw yr ARGLWYDD heddiw, yr hwn a roddes i Dafydd fab doeth ar y bobl luosog yma.
5:8 A Hiram a anfonodd at Solomon, gan ddywedyd, Gwrandewais ar yr hyn a anfonaist ataf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedrwydd, a choed ffynidwydd.
5:9 Fy ngweision a’u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a’u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i’m teulu i.
5:10 Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Solomon o goed cedrwydd, ac o goed ffynidwydd, ei holl ddymuniad.
5:11 A Solomon a roddodd i Hiram ugain mil corus o wenith yn gynhaliaeth i’w dŷ, ac ugain corus o olew coeth: felly y rhoddai Solomon i Hiram bob blwyddyn.
5:12 A’r ARGLWYDD a roddes ddoeth¬ineb i Solomon, fel y dywedasai wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Solomon; a hwy a wnaethant gyfamod ill dau.
5:13 A’r brenin Solomon a gyfododd dreth o holl Israel, a’r dreth oedd ddeng mil ar hugain o wŷr.
5:14 Ac efe a’u hanfonodd hwynt i Libanus, deng mil yn y mis ar gylch: mis y byddent yn Libanus, a dau fis gartref. Ac Adoniram oedd ar y dreth.
5:15 Ac yr oedd gan Solomon ddeng mil a thrigain yn dwyn beichiau, a phedwar ugain mil yn naddu cerrig yn y mynydd;
5:16 Heb law pen-swyddogion Solomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mil a thri chant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith.
5:17 A’r brenin a orchmynnodd ddwyn ohonynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nadd, i sylfaenu y tŷ.
5:18 Felly seiri Solomon, a seiri Hiram, a’r Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu’r tŷ.
PENNOD VI.
6:1 Ac yn y bedwar ugeinfed a phedwar cant o flynyddoedd wedi dyfod meibion Israel allan o’r Aifft, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Solomon ar Israel, yn y mis Sif, hwnnw yw yr ail fis, y dechreuodd efe adeiladu tŷ yr ARGLWYDD.
6:2 A’r tŷ a adeiladodd y brenin Solomon i’r ARGLWYDD oedd drigain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei led, a deg cufydd ar hugain ei uchder.
6:3 A’r porth o flaen teml y tŷ oedd ugain cufydd ei hyd, yn un hyd a lled y tŷ; ac yn ddeg cufydd ei led, o flaen y tŷ.
6:4 Ac efe a wnaeth i’r tŷ ffenestri, yn llydain oddi fewn, ac yn gyfyng oddi allan.
6:5 Ac efe a adeiladodd wrth fur y tŷ ystafelloedd oddi amgylch mur y tŷ, ynghylch y deml, a’r gafell; ac a wnaeth gelloedd o amgylch.
6:6 Yr ystafell isaf oedd bûm cufydd ei lled, a’r ganol chwe chufydd ei