Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/371

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

PENNOD XII.

º1 YNA Rehoboam a aeth i Sichem: canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin.

º2 A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac efe eto yn yr Aifft, (canys efe a ffoesai o ŵydd Solomon y brenin, a Jeroboam a arosasai yn yr Aifft;)

º3 Hwy a anfonasant, ac a alwasant arno ef. A Jeroboam a holl gynulleidfa Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant a Rehoboam, gan ddywedyd,

º4 Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o’i iau drom ef a roddodd efe arnom ni, ac ni a’th wasanaethwn di.

º5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch eto dridiau; yna dychwelwch ataf fi. A’r bobl a aethant ymaith.

º6 A’r brenin Rehoboam a ymgyng-horodd a’r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron Solomon ei dad ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, ac a ddywedodd. Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb i’r bobl hyn?

º7 A hwy a lefarasant wrtho ef, gan ddywedyd, Os byddi di heddiw was i’r bobl hyn, a’u gwasanaethu hwynt, a’u hateb hwynt, a llefaru wrthynt eiriau teg; yna y byddant weision i ti byth.

º8 Ond efe a wrthododd gyngor yr hen¬uriaid, yr hwn a gyngorasent iddo ef, ac efe a ymgynghorodd a’r gwŷr ieuainc a gynyddasai gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef:

º9 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha yr iau a roddodd dy dad arnom ni?

º10 A’r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywedyd. Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad.

º11 Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd a iau drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch cosbodd chwi a ffrewyllau, a mi a’ch cosbaf chwi ag ysgorpionau.

º12 A daeth Jeroboam a’r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llef- arasai y brenin, gan ddywedyd, Dy-’chwelwch ataf fi y trydydd dydd.

º13 A’r brenin a atebodd y bobl yn arw, ac a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo;

º14 Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi A ffrewyllau, "a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorp¬ionau.

º15 Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl. Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr ARGLWYDD, fel y cwblheid ei air ef, yr hwn a lefarasai yr ARGLWYDD trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.

º16 A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i’th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i’w pebyll.

º17 Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy.

º18 A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram, yr hwn oedd ar y dreth; a holl Israel a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw. Am hynny y brenin Reho¬boam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem.

º19 Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn.

º20 A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam, hwy a anfonasant ac a’i galwasant efat y gynulleidfa, ac a’i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel: nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd, ond llwyth Jwda yn unig.

º21 A phan ddaeth Rehoboam