Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/375

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

º20 A’r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain: ac efe a hunodd gyda’i dadau; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º21 A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda. Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr ARGLWYDD o holl lwythau Israel, i osod ei enw yno. Ac enw ei fam ef oedd Naaroa, Ammones.

º22 A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD; a hwy a’i hanogasant ef i eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent.

º23 Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas.

º24 A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

º25 Ac yn y bumed flwyddyn i’r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem.

º26 Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin; efe a’u dug hwynt ymaith oil: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon.

º27 A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a’u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin.

º28 A phan elai y brenin i dŷ yr AR¬GLWYDD, y rhedegwyr a’u dygent hwy, ac a’u hadferent i ystafell y rhedegwyr.

º29 A’r rhan arall o weithredoedd Rehoboam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Jwda?

º30 A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau.

º31 A Rehoboam a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. Ac Abeiam ei fab a deyrnas¬odd yn ei le ef.

PENNOD XV.

º1 A yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda.

º2 Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom.

º3 Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o’i flaen dF: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel calon Dafydd ei dad.

º4 Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr ARGLWYDD ei DDUW iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem:

º5 Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddydd¬iau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad.

º6 A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes.

º7 A’r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid bren¬hinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam.

º8 Ac Abeiam a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

º9 Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jero¬boam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda.

º10 Ac un flynedd a deugain y teyrnas¬odd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom.

º11 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad.

º12 Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o’r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau.

º13 Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw